Ar gyfer pwy mae’r Nosweithiau Cynnydd?

Mae nosweithiau cynnydd i ddysgwyr, rhieni neu warcheidwaid myfyrwyr sy’n astudio yn Cambria.

Beth ydyn nhw?

Mae Nosweithiau Cynnydd yn rhoi diweddariadau i fyfyrwyr a’u teuluoedd ar gynnydd, targedau a pherfformiad academaidd/galwedigaethol.

Pryd maen nhw’n cael eu cynnal?

Myfyrwyr Safon UG (Dysgwyr blwyddyn gyntaf Safon Uwch)

12 Chwefror 5:00pm i 8:00pm

Myfyrwyr Lefel 2 Galwedigaethol a Sylfaen

24 Chwefror 5:00pm i 8:00pm

Myfyrwyr Lefel 1 a Lefel 3 Galwedigaethol

26 Chwefror 5:00pm i 8:00pm

Myfyrwyr Safon Uwch (Dysgwyr ail flwyddyn Safon Uwch)

27 Tachwedd 5:00pm i 8:00pm

Bydd Nosweithiau Cynnydd yn cael eu cynnal ar-lein ac mi fydd angen i chi gofrestru i gymryd rhan (mae rhagor o fanylion am sut i wneud hyn isod)

Rydyn ni’n defnyddio llwyfan o’r enw School Cloud i gynnal ein Nosweithiau Cynnydd.

Ble i ddod o hyd i’ch manylion mewngofnodi Mi fydd angen Cod Mewngofnodi penodol i gofrestru. Mi fydd y wybodaeth yma yn cael ei hanfon mewn dwy ffordd:

  • Drwy’r Post: Mi fyddwch chi’n cael llythyr 7 diwrnod cyn y digwyddiad.
  • Drwy E-bost Myfyriwr: Byddwn ni’n anfon e-bost at gyfrif coleg eich person ifanc tua 5 diwrnod cyn y digwyddiad. Mi fydd yr e-bost yma yn cynnwys eu Henw Cyntaf, Cyfenw, a’r Cod Mewngofnodi unigryw.

Sut i gadw lle Defnyddiwch y manylion sydd i’w gweld yn y llythyr neu e-bost i gofrestru am gyfrif ar School Cloud.

Cysylltwch â ni os nad ydych chi wedi cael eich manylion mewngofnodi, neu os ydych chi’n cael trafferth gyda’r system cadw lle.

E-bost: qsi-support@cambria.ac.uk

Ar ddiwrnod y Noson Gynnydd, byddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa chi am eich apwyntiadau chi (Dysgwr) neu am apwyntiadau eich person ifanc (Rhiant/Gwarcheidwad). Bydd yr e-bost hwn yn cael ei anfon at y cyfrif e-bost a ddefnyddir i gofrestru ar School Cloud un awr cyn yr apwyntiad gyntaf. Mae’r e-bost yn cynnwys dolen uniongyrchol i fewngofnodi a mynd at yr apwyntiadau.

Mewngofnodwch i School Cloud gan ddefnyddio’r manylion mi wnaethoch chi eu defnyddio i gofrestru i fynd i’r apwyntiadau hyn.