Mae Lukas Stevenson yn dweud na fyddai wedi bod yn bosib heb y gefnogaeth a newidiodd ei fywyd gan Ganolfan Brifysgol Coleg Cambria.
Pan symudodd Lukas o Iwerddon i Gymru gyda’i deulu, manteisiodd ar y cyfle i fynd ar drywydd ei uchelgais o weithio gydag anifeiliaid.
Roedd ymweliad â safle Llaneurgain Cambria yn drobwynt, ac er iddo gynllunio’n wreiddiol i ymholi am gwrs Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid, gwnaeth staff ei annog i wneud cais yn uniongyrchol i’r cwrs lefel brifysgol HNC a HND mewn Rheolaeth Anifeiliaid.
Mae Lukas yn cofio cael “croeso cynnes, a’r cyngor gorau” a chael ei syfrdanu gan y “cyfleusterau rhagorol” sy’n adlewyrchiad o gryfder ac ansawdd addysg uwch yng Nghanolfan Brifysgol Cambria.
Gyda chefndir mewn arlwyo, roedd yn ansicr am ba gyfeiriad roedd ei yrfa yn y dyfodol am fynd, ond gwnaeth yr amgylchedd cefnogol ac addysgu arbenigol ei helpu i ddarganfod ei lwybr yn gyflym.
Daeth lleoliad gwaith yn ei ail flwyddyn yn gatalydd i bopeth a ddilynodd. Yn ystod gwyliau teuluol yng Ngwlad Thai, treuliodd amser yn plymio i adfer riffiau cwrel, profiad a newidiodd gwrs ei ddyfodol.
“Mi wnaeth y daith yna newid fy mywyd,” meddai. “Dyna oedd yr eiliad pan wnes i ddewis rhoi fy ngyrfa i warchod y môr”.
O’i ddiwrnod cyntaf yn Llaneurgain, roedd Lukas yn teimlo ei fod yn cael ei annog a’i gefnogi gan y tîm addysg uwch, yn enwedig yr Arweinydd Rhaglen Sadie Thackaberry. Chwaraeodd ei mentora rhan ganolog wrth feithrin ei hyder a’i helpu i wireddu ei botensial.
“Heb os nag oni bai, Sadie ydy un o’r tiwtoriaid mwyaf ysbrydoledig dwi wedi’i chyfarfod erioed,” meddai.
“Mae hi’n gwneud ei gorau glas a rhagor ar gyfer pob myfyriwr – ddim addysgu yn unig, ond cymell, annog, a’ch cefnogi chi ym mhob ffordd i chi gyflawni’ch nodau.
“I ddweud y gwir, pe bawn i heb gyfarfod â Sadie ar y diwrnod cyntaf honno yn Llaneurgain, yn fwy na thebyg mi faswn i’n dal i goginio yn lle dilyn fy mreuddwydion.”
Dywedodd Sadie: “Mae taith Lukas yn enghraifft bwerus o beth sy’n gallu digwydd pan mae angerdd a chyfle yn cyfuno. Roedd ei benderfyniad, chwilfrydedd, a brwdfrydedd am gadwraeth yn glir o’r dechrau, ac mae wedi bod yn fraint ei gefnogi.
“Rydyn ni’n andros o falch o bopeth mae wedi’i gyflawni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at weld yr effaith mi fydd yn ei chael mewn cadwraeth forol ar hyd a lled y byd.”
Ar ôl cwblhau’r MSc mewn Bioleg Forol, mae Lukas bellach yn paratoi i ddechrau PhD yng Ngwlad Thai yn ymchwilio i gystadleuaeth rhwng cwrel a sbyngau a sbyngau sy’n lladd cwrel.
Ochr yn ochr â’i astudiaethau, mae’n dysgu cyrsiau deifio SCUBA, deifio rhydd, a chadwraeth forol yn Wrecsam, gan ysbrydoli eraill i amddiffyn y cefnfor.
Mae Canolfan Brifysgol Cambria yn cynnig astudiaeth lefel gradd hygyrch mewn lleoliad cyfeillgar, lleol, gan gyfuno cyfleusterau modern â thiwtoriaid arbenigol sy’n dod â phrofiad diwydiant i’r ystafell ddosbarth.
Mae myfyrwyr yn elwa o amgylchedd cefnogol, costau byw is drwy astudio’n agos at adref, ac amrywiaeth o opsiynau cymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau, grantiau a bwrsariaethau. Mae’r Ganolfan hefyd yn croesawu dysgwyr heb gymwysterau traddodiadol, gyda llwybrau hyblyg a chyfleoedd i gofrestru yn seiliedig ar brofiad gwaith neu fywyd blaenorol.