Ymwybyddiaeth o droseddau â chyllyll
📅 Dydd Sadwrn 28 Chwefror
⏰ 10.00am – 11.30am
📍 Coleg Cambria Ffordd y Bers, Wrecsam
Gwybodaeth am y sesiwn
Nod y digwyddiad cymunedol hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch troseddau â chyllyll ac arfau ymosodol, y gyfraith sy’n gysylltiedig â nhw, a’r canlyniadau bywyd go iawn y gall eu defnydd eu cael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Bydd y sesiwn yn archwilio:
Beth sy’n cyfrif yn gyfreithiol fel arf ymosodol
Y cyfreithiau a’r cosbau sy’n ymwneud â meddiant a defnyddio
Effaith ehangach troseddau â chyllyll a digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag arfau
Sut y gall ymwybyddiaeth, addysg a gweithredu cynnar helpu i gadw pobl yn ddiogel
Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer oedolion, rhieni, gofalwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelwch y gymuned ac atal troseddu.
Bydd y sesiwn yn gorffen gyda gweithdy cymorth cyntaf ymarferol sy’n canolbwyntio ar adnabod ac ymateb i waedu sy’n peryglu bywyd.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu:
Sut i adnabod gwaedu difrifol
Pa gamau gweithredu uniongyrchol all achub bywyd cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd
Sut i gymhwyso technegau rheoli gwaedu effeithiol
Dyma sesiwn ymarferol sy’n defnyddio modelau cymorth cyntaf, gan alluogi cyfranogwyr i ymarfer technegau mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
🧤 Darperir ffedogau a menig
⚠️ Rhybudd cynnwys:
Mae’r sesiwn yn trafod ac arddangos anafiadau difrifol.
Gall unrhyw un sy’n anghyfforddus gyda delweddau o glwyfau neu waed adael cyn i’r rhan yma ddechrau.
Pam mynd i’r sesiwn?
Gall gwybod y gyfraith atal canlyniadau sy’n newid bywyd.
Gall gwybod cymorth cyntaf atal colli bywyd.
Mae’r sesiwn hon yn cyfarparu unigolion gyda gwybodaeth, ymwybyddiaeth a sgiliau ymarferol a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefyllfa argyfwng