Cau Safleoedd y Coleg Oherwydd Tywydd Garw (9/1/26)

Rydym wedi penderfynu cau safleoedd canlynol Cambria: All Sites Bydd gwersi a gwaith staff ar y safleoedd sydd wedi’u heffeithio yn symud ar-lein. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth bwysig

Dysgu ar-lein i fyfyrwyr y safleoedd sydd wedi’u heffeithio 

Bydd gwersi yn symud ar-lein yn unol â’r amserlenni presennol.

Bydd ein staff yn gweithio o bell a byddant ar gael i fyfyrwyr a phrentisiaid dros y ffôn a dros e-bost yn ystod y cyfnod hwn.

Dylai myfyrwyr a phrentisiaid fewngofnodi i Google Classroom er mwyn cyrchu eu gwersi a fydd yn cael eu cynnal yn rhithwir.

Mae’n rhaid i unrhyw fyfyriwr sy’n cael trafferth cyrchu eu gwersi gysylltu â’u tiwtor yn uniongyrchol dros e-bost i sicrhau nad ydynt yn cael eu marcio’n absennol o’r wers. 

Arhoswch yn y tŷ, mewngofnodwch a chwblhewch eich gwersi (er mwyn osgoi colli unrhyw waith) ac yn bwysicach na dim, arhoswch yn ddiogel.