Background Splash

Gan Alex Stockton

Christmas25

Drwy gydol y flwyddyn, mae’r coleg – sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi – wedi dathlu canlyniadau myfyrwyr cadarn, addysgu a dysgu arloesol, a phartneriaethau ystyrlon â chyflogwyr a sefydliadau cymunedol, gan gynnwys llwyddiant WorldSkills UK a Chynghrair Trydyddol Gogledd Cymru.

O brentisiaethau i lwybrau addysg uwch ac ymgysylltu cymunedol, mae 2025 wedi atgyfnerthu’r rhan y mae Coleg Cambria yn ei chwarae o ran darparu cyfleoedd a chynhwysiant.

Mae buddsoddiad mewn cyfleusterau, dysgu digidol a datblygu staff wedi parhau i wella profiadau dysgwyr, gan sicrhau bod myfyrwyr wedi’u cyfarparu â’r sgiliau, yr hyder a’r uchelgais sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Ar draws pob safle, mae staff wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl i gefnogi dysgwyr yn academaidd ac yn bersonol, gan eu helpu nhw i lwyddo mewn byd sy’n newid yn gyflym.

Canmolodd y Prif Weithredwr Yana Williams eu hymdrech.

“Dwi’n hynod falch o’r hyn y mae ein myfyrwyr a’n staff wedi’i gyflawni yn 2025. Mae eu hymroddiad, eu creadigrwydd a’u gwytnwch nhw wedi bod wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, a’u gwaith caled nhw sy’n parhau i lunio llwyddiant Coleg Cambria.”

Mae’r coleg hefyd wedi cryfhau ei gysylltiadau â chymunedau lleol a chyflogwyr, gan weithio ar y cyd i ymateb i anghenion sgiliau a chreu cyfleoedd go iawn. Nid yn unig y mae’r partneriaethau hyn wedi cefnogi dysgwyr i gael gwaith ond maent hefyd wedi helpu’r rhanbarth i ffynnu’n economaidd ac yn gymdeithasol.

Wrth adfyfyrio ar y flwyddyn, ychwanegodd Ms Williams: “Mae ein cymunedau a’n partneriaid ni’n chwarae rhan hanfodol o’n taith. Rydyn ni’n ddiolchgar am yr ymddiriedaeth, y cydweithrediad a’r gefnogaeth sydd wedi cael eu dangos drwy gydol y flwyddyn, sy’n ein galluogi ni i ddarparu addysg a hyfforddiant sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Wrth i’r tymor Nadoligaidd agosáu, mae Coleg Cambria yn diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at 2025 – myfyrwyr, staff, llywodraethwyr, partneriaid a chymunedau.

“Ar yr adeg arbennig yma o’r flwyddyn, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi Coleg Cambria yn 2025,” meddai Ms Williams.

“Ar ran y coleg cyfan, dwi’n dymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i’n myfyrwyr, staff a chymunedau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau eleni gyda’n gilydd yn 2026.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost