Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

SpringboardWinners

Cymerodd saith chef ifanc o Flynyddoedd 9 a 10 ran yn y gystadleuaeth – a gynhaliwyd ym Mwyty Iâl y coleg – gan gynnwys dau ddysgwr o raglen cysylltiadau ysgolion TGAU Lletygarwch ac Arlwyo Cambria.

Yr ysgolion a gafodd eu cynrychioli oedd Ysgol Clywedog, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Bryn Alyn, Ysgol Uwchradd Rhosnesni ac Ysgol Maelor ym Mhenley.

Cafodd y cystadleuwyr eu herio i gynhyrchu un saig a dwy gyfran ar gyllideb dynn o £6.50, gan arddangos gallu technegol trawiadol, creadigrwydd a thawelwch dan bwysau.

Ymhlith y panel beirniadu roedd y Chef Preifat Rossett (Roxanne Deamer) a Brett Bignell o’r Llynges Frenhinol, ochr yn ochr â Nathan Booth, Prif Chef Stadiwm Hill Dickinson Clwb Pêl-droed Everton, a oedd yn canmol safon uchel y seigiau a’r tawelwch wnaeth yr holl gyfranolgwyr ei ddangos.

Dywedodd y byddai’n hapus i groesawu unrhyw un o’r chefs ifanc i’w gegin ei hun a jôciodd mai dyma oedd “y gegin dawelaf i mi fod ynddi erioed,” o ystyried bod y cystadleuwyr ddim yn cynhyrfu ac yn canolbwyntio drwyddo draw.

Enillydd y rownd oedd Rya Smith, 15 oed o Wrecsam, dysgwr Blwyddyn 2 ar gwrs TGAU Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Cambria a disgybl yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni.

Gwnaeth Rya argraff gyda’i papillot lledod wedi’i botsio a’i weini gyda chacen datws a beurre blanc.

Dywedodd: “Fy mreuddwyd ydy bod yn chef un diwrnod. Roeddwn i mor nerfus ond yn gyffrous, a dwi’n hapus iawn i ennill. Mi wnes i ddewis cwrs pysgod oherwydd ei fod yn cymryd llawer o sgil, roedd y paratoi a’r tynnu asgwrn yn heriol iawn i mi. Roedd ychydig yn frawychus, ond mi wnes i lwyddo, a dwi’’n falch o’r saig derfynol.”

Bydd Rya rŵan yn symud ymlaen i’r rowndiau terfynol rhanbarthol yng Nghaerdydd fis Chwefror nesaf. Hefyd yn symud ymlaen mae Naraya Leburn o Ysgol Uwchradd Dinbych, a gafodd le cerdyn gwyllt ar ôl i’w chyw iâr mewn saws tarragon gyda thatws a brocoli fod yn ffefryn gyda’r panel beirniadu.

Dywedodd Angharad Jarvis, Arweinydd Cwricwlwm Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Cambria: “Rydyn ni’n hynod falch o’r holl gystadleuwyr, yn enwedig ein dysgwyr ni sydd wedi dangos cymaint o broffesiynoldeb.

“Mae cynnal FutureChef yn cryfhau ein partneriaethau ag ysgolion lleol ac yn rhoi llwyfan gwych i bobl ifanc archwilio eu hangerdd a’u potensial mewn lletygarwch.”

Ychwanegodd Rebecca Slade, Rheolwr Cyflwyno Rhaglen Gyrfaoedd, Addysg a Chyflogadwyedd Springboard: “Roedd lefel y coginio yn eithriadol, ac mae agosrwydd y gystadleuaeth yn dweud llawer am y dalent yn yr ystafell.

“Roedd eu tawelwch a’u ffocws am oedran mor ifanc yn nodedig. Diolch yn fawr iawn i Goleg Cambria am ein croesawu ni ac am ddarparu cyfleusterau mor ardderchog – roedd yn rownd gynderfynol wych, a dylai pob cystadleuydd fod yn falch.”

Dywedodd darlithydd Coleg Cambria, Angel Ralchev: “Roedd yn fraint cynnal y gystadleuaeth, ac rydym wrth ein bodd bod un o’n dysgwyr wedi dod i’r brig. Mae digwyddiadau fel FutureChef yn rhoi cipolwg gwirioneddol i fyfyrwyr ar bwysau a safonau cegin broffesiynol, ac fe wnaethon nhw i gyd ymdrin ag ef yn anhygoel o dda.”

Cystadleuaeth Springboard FutureChef yw rhaglen goginio ysgolion blaenllaw’r DU, sy’n ymgysylltu â dros 25,000 o bobl ifanc bob blwyddyn.

Ei nod yw datblygu sgiliau coginio hanfodol, meithrin hyder, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chefs trwy gyfres strwythuredig o rowndiau rhagbrofol ysgol, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a gefnogir gan fentoriaid proffesiynol.

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Ewch i www.futurechef.uk i weld rhagor am Springboard FutureChef.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost