Mae cannoedd o ddysgwyr wedi cymryd rhan mewn gweithdai, sgyrsiau, cystadlaethau a phrofiadau mentergarwch ymarferol sy’n cyd-fynd â’r thema GEW 2025 – Adeiladu gyda’n Gilydd.
O Lefel Sylfaen i Lefel 3 mae myfyrwyr yn edrych ar eu siwrnai dechrau busnes yn y byd go iawn, modelau menter gymdeithasol a’r cyfleoedd cynyddol sydd ar gael i entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru.
Dywedodd Judith Alexander, Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth yng Ngholeg Cambria, sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi: “Roedd hi’n gyffrous gweld addewid a brwdfrydedd ein dysgwyr wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai entrepreneuraidd eleni.
“Mae Wythnos Menter Fyd-eang bob amser yn rhoi hwb ychwanegol i ni hyrwyddo ein cynnig ac i annog rhagor o ddysgwyr i ystyried hunangyflogaeth a dechrau eu busnesau eu hunain fel llwybr gyrfa ddilys.
“Rydyn ni’n ffodus o gael cymorth gan sefydliadau Syniadau Mawr Cymru, Menter Ifanc Cymru a Banc NatWest ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol allweddol eraill sy’n barod i roi o’u hamser gwerthfawr i rannu cymhelliant, doethineb ac anogaeth.
“Mae wedi bod yn braf gweld cynnydd o’r fath yn nifer ein cyn-fyfyrwyr yn ennill Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc gan Syniadau Mawr Cymru yr haf hwn. Mae thema eleni yn berthnasol iawn gan ei bod yn ategu ein gwerthoedd fel coleg – blaenoriaethu angerdd, arloesedd, ac ymdeimlad o gymuned.”
Mae’r coleg wedi croesawu nifer fawr o Unigolion Dylanwadol sy’n gysylltiedig â Syniadau Mawr Cymru gan gynnwys Shoned Owen, Beatriz Albo, Cheryl Reeves, Teresa Carnall a Gavin Eastham, ochr yn ochr â rhaglen Seiliau Ariannol NatWest a chyfres o sesiynau Menter Ifanc a gynhaliwyd ar safleoedd Iâl a Glannau Dyfrdwy.
Mae gweithgareddau wedi amrywio o weithdai dechrau busnes a dosbarthiadau meistr ar gyfryngau cymdeithasol i’r Siop Gyfnewid Dillad hynod boblogaidd a digwyddiad Holi ac Ateb ar Ferched mewn Busnes sydd wedi cynnwys arweinwyr yn y diwydiant.
Un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd dathlu straeon llwyddiant fel stori Dylan Morris sydd wedi sefydlu’r brand dillad actif a ffordd o fyw poblogaidd iawn, MountForce. Dechreuodd ei daith entrepreneuraidd yn yr ystafell ddosbarth yng Ngholeg Cambria ac ers hynny mae wedi denu cwsmeriaid ledled y DU, diddordeb rhyngwladol a chefnogaeth gan athletwyr proffesiynol.
Dywedodd Peter Donovan, mentor Syniadau Mawr Cymru sydd wedi helpu Dylan â’r broses Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc: “Roedd yn bleser gweithio gyda Dylan a’i helpu yn dilyn ei lwyddiant gyda’i wobr am ei syniad ar gyfer ei fusnes newydd. O’r dechrau un roedd ei uchelgais yn amlwg ac roedd hi’n bosib adeiladu sylfeini cryf ar gyfer ei fusnes.”
Mae tîm Menter Coleg Cambria yn parhau i helpu dysgwyr drwy gydol y flwyddyn. Gyda phartneriaethau yn y diwydiant, mentoriaid sy’n ysbrydoli a diwylliant creadigol sy’n ffynnu, mae’r coleg yn parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ledled Gogledd Cymru.