Cafodd y digwyddiad mawr ei fri – sy’n cael ei adnabod fel ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ – cafodd ei gynnal yng Nghymru am y tro cyntaf.
Gwnaeth dros 400 o brentisiaid a dysgwyr gorau’r DU gystadlu ar draws pum lleoliad a dros 40 maes sgiliau, o Beirianneg ac Adeiladu i Therapi Harddwch, Lletygarwch a Diwydiannau Creadigol.
Yn eu plith nhw oedd cystadleuwyr o Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, a wynebodd heriau a ddyluniwyd gan arbenigwyr yn y diwydiant i brofi gallu technegol, manwl gywirdeb, gwaith tîm a gwytnwch o dan bwysau.
Roedd y canlyniadau rhagorol ar gyfer Coleg Cambria yn cynnwys:
- Aur i Evie McManus (Therapi Harddwch)
- Aur i Robert Jones (Cynnal a Chadw Awyrennau)
- Arian i Mark Wright (Gwaith Metel Adeiladu)
- Efydd i Lydia Roberts (Therapi Harddwch)
- Canmoliaeth Uchel i Hannah Back (Cynnal a Chadw Awyrennau)
Roedd cystadleuwyr a oedd yn falch o gynrychioli Cambria a’i bartneriaid cyflogwyr yn cynnwys dysgwr Cynnal a Chadw Awyrennau Patrick Dunne ac arbenigwyr Melino CNC Jo Arrowsmith a Tomos Roberts.
Roedd y llwyddiant hwn yn rhan o flwyddyn a dorrodd record i Gymru, a gyflwynodd ei thîm mwyaf erioed o 122 o gystadleuwyr. Sicrhaodd Tîm Cymru 57 o fedalau i gyd, gyda dysgwyr Gogledd Cymru – gan gynnwys y rhai o Goleg Cambria a chyflogwyr partner fel Airbus UK – yn cyfrannu 2 wobr Aur, 3 Arian, 4 Efydd a 2 wobr Canmoliaeth Uchel.
Canmolodd Robert Jones, Arweinydd Cystadleuaeth Sgiliau Cambria, yr ymdrech y tu ôl i’r llenni a dywedodd: “Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai am y gweithdai arbenigol, yr hyfforddiant pwrpasol, y profion pwysau a’r hyfforddiant o safon uchel a gafodd eu darparu gan ein swyddogion hyfforddi technegol, darlithwyr a rheolwyr hyfforddi sydd wedi bod yn rhan allweddol o’u taith o fynd i mewn i’r gystadleuaeth i’r rowndiau terfynol cenedlaethol.”
Ychwanegodd Lisa Radcliffe, Pennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol yng Nglannau Dyfrdwy: “Mae pob medal yn cynrychioli oriau di-rif o waith caled a’r ymrwymiad diysgog y mae’r dysgwyr hyn wedi’i ddangos i feistroli eu crefft. Rydyn ni’n hynod falch o’u cyflawniadau ac wedi ein hysbrydoli gan y dyfodol disglair maen nhw’n ei greu trwy sgil, penderfyniad a rhagoriaeth.”
Canmolodd y tiwtoriaid Therapi Harddwch Ruth Payton a Charlotte Darbey y ddeuawd a enillodd fedalau: “Roedden nhw mor dda o dan bwysau, yn canolbwyntio’n llwyr, rydyn ni’n hynod falch ohonyn nhw.”
Dywedodd Jamie Mapp-Jones, Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Prentisiaethau Llawn Amser: “Mae’r canlyniadau yma yn tynnu sylw at safon eithriadol yr hyfforddiant sgiliau yng Ngholeg Cambria ac ymroddiad ein dysgwyr, staff, a phartneriaid cyflogwyr. Mae eu cyflawniadau’n dangos beth sy’n bosibl pan fydd talent, angerdd ac addysgu o ansawdd uchel yn dod at ei gilydd.”
Roedd Robert Jones, enillydd medal aur Cynnal a Chadw Awyrennau, yn adfyfyrio ar ei daith ei hun yn dilyn ei berfformiad aur: “Ar ôl ennill aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac Arian yng Nghystadlaethau Cenedlaethol, roeddwn i’n benderfynol o fynd am aur y tro yma. Mae’r profiad wedi bod yn amhrisiadwy – mae cynrychioli Cymru yn gwneud i mi deimlo mor falch.”
Dilynodd y rowndiau terfynol cenedlaethol Ras Gyfnewid y Ffagl ysbrydoledig Tîm Cymru, a deithiodd ar draws y wlad yn uno colegau a chymunedau i ddathlu sgiliau. Gyda’i chynnal y rowndiau terfynol am y tro cyntaf a’i pherfformiad cryfaf hyd yma, mae Cymru wedi sefydlu ei hun yn gadarn fel pwerdy ar gyfer rhagoriaeth alwedigaethol a datblygu talent.
Mae gan enillwyr medalau o ddigwyddiad eleni gyfle rŵan i ymuno â Sgwad y DU, gan gynrychioli eu gwlad o bosibl mewn cystadlaethau WorldSkills rhyngwladol yn y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth am WorldSkills UK, ewch i www.worldskillsuk.org.