Ar ôl derbyn caniatâd cynllunio a chwblhau’r holl asesiadau amgylcheddol mae’r timau adeiladu bellach ar y safle’n gosod sylfeini i’r prosiect gwerth sawl miliwn a fydd yn gwella enw da’r coleg ymhellach fel un o’r darparwyr sy’n arwain ar addysg astudiaethau’r tir yn y DU.
Mae’r datblygiad – sydd wedi cael ei ddylunio gan gwmni pensaerniol TACP Architects ac yn cael ei adeiladu gan gwmni lleol Read Construction o Wrecsam – yn dilyn yr agoriad diweddar o’r Hwb Arloesi gwerth £10m ar y safle.
Mae’r cymhwyster blaengar yn cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, labordai, wal ddringo, caffi, llefydd cyfarfod a hybiau llesiant ac addysg uwch pwrpasol.
Mae’r bloc llety newydd yn cynnig llety cyfoes ac o safon uchel i fyfyrwyr gyda llofftydd en-suite, gofod cymdeithasol ac ardaloedd cymunedol er mwyn creu naws amlwg o gymuned.
Mae Pennaeth Llysfasi, Elin Roberts wrth ei bodd bod y gwaith wedi dechrau ar y prosiect sydd eto’n nodi carreg filltir sylweddol yn natblygiad parhaus o’r safle yn Sir Ddinbych.
“Rydyn ni wedi gwirioni cael gweld y gwaith o adeiladu ein llety newydd i fyfyrwyr yn mynd rhagddo yn swyddogol,” meddai Elin.
“Mae’r datblygiad hwn wedi cael ei gynllunio’n ofalus a’i gymeradwyo gan roi ystyriaeth lawn i’r holl agweddau amgylcheddol ac rydyn ni bellach yn gosod y sylfeini ar gyfer ychwanegiad gwych i Lysfasi.
“Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld 70% o gynnydd mewn niferoedd myfyrwyr a hefyd cynnydd mewn prentisiaid yn ymuno â ni o bob cwr o’r DU trwy ein partneriaethau gydag enwau mawr yn y diwydiant fel AGCO a Kubota.
“Bydd y cyfleuster newydd hwn yn cwrdd â’r galw cynyddol ac yn gwneud yn siŵr fod gan ein dysgwyr fynediad at y llety gorau posib yn un o’r ardaloedd gwledig mwyaf prydferth yng Nghymru.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Read Construction, Alex Read: “Mae’r gwaith o gydweithio gyda Choleg Cambria yn Llysfasi yn adlewyrchu’r ymrwymiad sydd gennym ar y cyd i ddarparu isadeiledd addysgol dylanwadol.
“Gyda’r Hwb Cymunedol a’r Hwb Arloesi wedi’u cwblhau’n llwyddiannus – ac wedi derbyn Gwobr Ansawdd Cymru LABC yn ddiweddar – mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn atgyfnerthu gweledigaeth y coleg o ran twf a rhagori ym mhrofiad y myfyriwr.”
Mae’r prosiect yn sefydlu rhan o fuddsoddiad ehangach Coleg Cambria yn Llysfasi sydd wedi gweld gwaith ail-ddatblygu sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys y ganolfan addysg gwerth £10 miliwn a’r Ganolfan Addysg Wledig gwerth £1.2 miliwn a agorwyd pedair blynedd yn ôl.
Am ragor o newyddion a gwybodaeth ar Goleg Cambria Llysfasi ewch i www.cambria.ac.uk.