Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yng Ngholeg Cambria wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y 12 mis diwethaf.
Dan arweiniad y Cyfarwyddwyr Cwricwlwm David Garratt a Claire Howells, mae’r cynllun wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cyfranogiad ac wedi tyfu o 70 o ddysgwyr yn 2024 i fwy na 100 eleni.
Mae Twf Swyddi Cymru+ wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifanc 16–19 oed sy’n byw yng Nghymru ac yn rhoi’r cyfle iddyn nhw ennill sgiliau, profiadau a chymwysterau gwerthfawr ac yn helpu busnesau lleol i gynnig “lleoliadau gwaith ystyrlon”.
Yn adeiladu ar lwyddiant yr ail-lansio wedi’r pandemig y llynedd mae Twf Swyddi Cymru+ ar y cyd â Choleg Cambria yn canolbwyntio ar ehangu cyfleoedd mewn diwydiannau allweddol fel gwallt a harddwch, peirianneg ac adeiladu yn ogystal ag ehangu cysylltiadau â chwmnïau llai a sefydliadau cymunedol.
“Mae wedi bod yn flwyddyn wych o gynnydd i Dwf Swyddi Cymru+,” meddai David.
“Rydyn ni wedi gweld cynnydd nid yn unig yn nifer y dysgwyr ond hefyd ym mrwdfrydedd cyflogwyr lleol sy’n cydnabod pa mor werthfawr y gall y lleoliadau hyn fod i’r ddwy ochr. Mae’r rhaglen yn helpu pobl ifanc i ennill profiad yn y byd go iawn wrth roi adnoddau, creadigrwydd a chefnogaeth ychwanegol i fusnesau.”
Dywed y coleg fod apêl y rhaglen yn gorwedd yn ei hyblygrwydd a’i ffocws ar ddysgu galwedigaethol, ymarferol.
Mae cyfranogwyr yn elwa o lwfans hyfforddi wythnosol o hyd at £42–£60, yn dibynnu ar eu cynllun dysgu a datblygu unigol, ac mae llawer yn symud ymlaen i rolau llawn amser neu brentisiaethau – gan ennill o leiaf y Cyflog Isafswm Cenedlaethol ar ôl cael eu cyflogi.
Ychwanegodd Claire: “Rydym yn gweld dysgwyr yn ffynnu mewn amgylcheddau sy’n amrywio o safleoedd adeiladu a chwmnïau cyfreithiol i salonau harddwch a phrosiectau peintio ac addurno.
“Nid dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn unig yw hyn – maent yn ennill hyder, sgiliau, ac ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas trwy brofiad ymarferol.
“Rydym am glywed gan gyflogwyr o bob maint, o fasnachwyr unigol i sefydliadau mawr. P’un a allwch gynnig lleoliad byr neu rôl tymor hwy, mae’r cyfan yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhan o Warant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o helpu pobl ifanc ledled Cymru i gyrraedd eu potensial.
Mae timau Cambria yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam hefyd wedi cryfhau cysylltiadau â phrosiectau cymunedol lleol – cyfleusterau peintio yng Nghlwb Bowlio Plas Kynaston, a chynnal a chadw, atgyweirio a thirlunio ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr – gan gynnig profiadau dysgu gwerthfawr yn y byd go iawn.
“Rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut mae’r profiadau hyn yn helpu dysgwyr i dyfu,” ychwanegodd y ddau.
“Ac mae cyflogwyr yn dweud wrthym fod brwdfrydedd ac ethos gwaith pobl ifanc ar y rhaglen yn aml yn rhagori ar ddisgwyliadau. Rydym yn annog mwy o fusnesau – mawr a bach – i gysylltu a gweld sut y gallant gymryd rhan.”
Gyda phartneriaethau newydd yn ffurfio ac ystod ehangach o ddiwydiannau yn cael eu cynrychioli, mae’r coleg yn anelu at wneud y rhaglen hyd yn oed yn fwy hygyrch yn 2026 a thu hwnt.