Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Cambria Finalists Ready to Compete at WorldSkills UK 2025

Mae’r criw yn cynnwys sêr y dyfodol yn niwydiannau Cynnal a Chadw Awyrennau, Therapi Harddwch, Melino CNC, a Gwneuthuro Metel. Mae bob un yn benderfynol o ddod â medalau gartref i Dîm Cymru.

Yn eu plith nhw yw Roberts Jones a Hannah Back, o Airbus UK, sy’n dychwelyd i’r rowndiau terfynol yn dilyn perfformiadau cadarn yn 2024.

Mae gan Robert, o Wrecsam, a enillodd fedal arian y llynedd, ei lygaid ar ennill y fedal aur.

“Mae’r ffaith ein bod ni wedi cymryd rhan yn barod yn bendant yn fantais. Mae’n rhaid canolbwyntio ar y dasg, a chadw’n gyson y gystadleuaeth,” meddai.

Ychwanegodd cyd-gystadleuydd Hannah, o Upton, Cilgwri: “Mae’r profiad o’r llynedd yn rhoi hyder i ni – y nod ydy peidio â chynhyrfu a pherfformio ar eich gorau pan mae wir yn cyfri.”

Yn ymuno â nhw yng nghategori Cynnal a Chadw Awyrennau yw Patrick Dunne, y mae ei arbenigedd technegol a’i dawelwch wedi ei wneud yn un i’w wylio.

Yng nghategori Therapi Harddwch, bydd Evie McManus o Fwcle a Lydia Roberts yn cynrychioli’r coleg, sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi.

Mae hyn yn gwireddu breuddwyd Evie: “Rydyn ni i gyd wedi hyfforddi mor galed ac wedi cael cefnogaeth ragorol gan y coleg. Mae cynrychioli Cymru yn gymaint o fraint, mi fydd yn her, ond her dwi’n barod i’w hwynebu.”

Canmolodd y tiwtor Ruth Payton ei hymroddiad, gan ychwanegu: “Mae Evie a’n holl ymgeiswyr terfynol yn ysbrydoliaeth i eraill. Mae hi’n gallu canolbwyntio’n dda, dydy hi ddim yn cynhyrfu o dan bwysau, ac mae hi’n haeddu ei lle yn y rownd derfynol.

“Rydyn ni wedi datblygu pyrth hyfforddi pwrpasol er mwyn i’n dysgwyr allu mireinio technegau ac efelychu amodau cystadleuaeth – ac mae Evie’n ffynnu yn yr amgylchedd hynny.”

Mae rhagoriaeth peirianneg yn nodwedd arall o Cambria, a gynrychiolir yn falch gan gystadleuwyr Melino CNC Jo Arrowsmith a Tomos Roberts, sydd hefyd yn cynrychioli JCB.

“Mae’n amgylchedd dan bwysau uchel ond rydyn ni’n barod am yr her ac mae gennym ni ein gilydd i’n cefnogi,” meddai Jo, o Alltami ger Bwcle.

Ychwanegodd Tomos, o Landyrnog: “Mae ein tiwtor Adam Youens wedi bod yn wych wrth ein helpu i baratoi. Rydyn ni’n hyderus ac yn methu aros i ddechrau.”

Yn cwblhau’r rhestr mae Mark Wright, sy’n cystadlu mewn Gwneuthuro Metel, y mae ei gywirdeb a’i grefftwaith wedi ennill lle iddo ymhlith goreuon y DU.

Cafodd safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria y fraint o gynnal ras gyfnewid Tîm Cymru, rhan o’r paratoadau cenedlaethol ar gyfer Rowndiau Terfynol WorldSkills UK, a gafodd eu cynnal yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.

Dathlodd y ras gyfnewid y daith i WorldSkills Shanghai 2026, gan ddod â dysgwyr, cyflogwyr ac arweinwyr cymunedol ynghyd i hyrwyddo gwerth sgiliau galwedigaethol.

Gan ychwanegu at y bwrlwm ar y diwrnod, cynhaliodd y coleg Gystadleuaeth Dechnoleg Rotary hefyd, a welodd 16 o ysgolion uwchradd Gogledd Cymru yn cystadlu mewn her beirianneg greadigol. Cafodd pob tîm o bedwar myfyriwr y dasg o ddylunio ac adeiladu didolwr darnau arian gan ddefnyddio pren, cardfwrdd a gynnau glud yn unig. Cafodd eu creadigaethau dyfeisgar eu beirniadu gan banel o Rotariaid a phrentisiaid Airbus, a oedd hefyd yn mentora’r disgyblion drwy gydol y dydd.

Bydd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU yn rhedeg o 26-28 Tachwedd, gyda channoedd o gystadleuwyr yn arddangos eu galluoedd mewn dros 45 o ddisgyblaethau ar draws lleoliadau yng Nghasnewydd, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Mae cynnal y rowndiau terfynol yng Nghymru yn nodi carreg filltir, gan arddangos cryfder y genedl mewn addysg, arloesedd a hyfforddiant.

Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Sgiliau, Diwylliant a Phartneriaeth Gymdeithasol – cyn-brentis yng Nghaergrawnt: “Mae sgiliau galwedigaethol yn hanfodol i’n cymunedau a’n heconomi. Mae’r dathliad yma yn atgyfnerthu rôl Cymru fel arweinydd mewn rhagoriaeth sgiliau.”

Ychwanegodd Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria: “Mae’r bobl ifanc yma yn cynrychioli popeth sydd orau am Cambria – ymroddiad, gwaith tîm, ac anelu am ragoriaeth. Rydyn ni mor falch ohonyn nhw.”

Gwyliwch Ras Gyfnewid Fflam Tîm Cymru yng Nglannau Dyfrdwy: https://youtu.be/5ogFRFVRRLo?si=GBzzma6cMWa9AfZf

Am ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan fel cystadleuydd, cyflogwr neu hyrwyddwr sgiliau, ewch i https://inspiringskills.gov.wales neu dilynwch ddiweddariadau ar www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost