Mae Rebecca Mountfield-Pawlett sy’n arweinydd y rhaglen TAR yng Ngholeg Cambria wedi cyhoeddi canfyddiadau sy’n tynnu sylw at yr heriau a’r cryfderau sydd gan fyfyrwyr ag ADHD a sut y gall strategaethau addysgu ymarferol wneud y byd academaidd yn fwy cynhwysol.
Mae Rebecca sydd hefyd yn addysgu Astudiaethau Plentyndod mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam ac sydd ar hyn o bryd yn astudio am ddoethuriaeth mewn addysg gyda ffocws ar lythrennedd yn egluro sut tyfodd y prosiect o’i phrofiadau ystafell ddosbarth ei hun.
“Sylwais fod cynnydd yn nifer y myfyrwyr a oedd yn cyflwyno â nodweddion niwroamrywiol,” meddai.
“Mae llawer heb fynegi eu heriau na chael diagnosis o ADHD ond roedd yn amlwg eu bod yn cael trafferth gydag agweddau o astudio ac asesu. Roeddwn i eisiau gweld a oedd yr hyn yr oeddwn i’n ei arsylwi yn cael ei adlewyrchu ym mhrofiad ehangach y myfyrwyr.”
Mae agwedd o’i hymchwil yn ymgysylltu’n uniongyrchol â’r dysgwyr. Mae llawer ohonynt yn disgrifio eu hanawsterau gyda chanolbwyntio, gohirio gwneud pethau a chofio gwybodaeth ond hefyd yn sôn am eu creadigrwydd, addasrwydd a’u hoffter amlwg o ddysgu gweledol a dysgu’n seiliedig ar dasgau.
“Mae llawer o fyfyrwyr yn gweld eistedd mewn darlithoedd hir yn ormod iddyn nhw,” meddai Rebecca.
“Mae newidiadau syml fel rhoi ‘seibiant i’r ymennydd’, rhannu tasgau yn ddarnau llai neu ddefnyddio technoleg ryngweithiol yn gwneud gwir wahaniaeth. Mae’r dulliau hyn o fudd i bob dysgwr nid yn unig y rhai sydd ag ADHD.”
Rhannwyd y canfyddiadau fel rhan o Ddathliad Gweithgaredd Ysgolheigaidd y coleg mewn astudiaeth o’r enw Cefnogi Myfyrwyr AU gydag ADHD: Nodweddion, Cymorth Seiliedig ar Dystiolaeth a Phroffil Myfyrwyr.
Yn genedlaethol mae rhwng 4 – 8% o fyfyrwyr addysg uwch y DU gydag ADHD ac mae diffyg cymorth yn parhau i fod ar gyfer llawer ohonyn nhw.
Yn ôl Rebecca mae’n rhaid i hynny newid: “Mae ADHD yn aml yn cael ei gamddeall mewn lleoliadau academaidd. Drwy gyfuno strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth â lleisiau myfyrwyr go iawn gallwn ddylunio amgylcheddau dysgu sy’n lleihau rhwystrau ac yn caniatáu i fyfyrwyr ffynnu.
“Nid oes gofyniad i ailwampio systemau cyfan ond gall pob darlithydd roi cynnig ar un peth – boed hynny’n defnyddio delweddau lliw fel cod, rhannu tasgau’n gamau neu atgoffa’n rheolaidd – gall hynny wneud gwahaniaeth enfawr i hyder a llwyddiant myfyriwr.”
Mae Coleg Cambria – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi – eisoes wedi ymgorffori elfennau o’r ymchwil hwn yn ei raglenni ymsefydlu gan sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o ddulliau addysgu cynhwysol.
Mae Rebecca yn gobeithio y bydd y gwaith yn parhau i atgyfnerthu ymrwymiad y coleg i niwroamrywiaeth a chynhwysiant ar draws cymunedau myfyrwyr a staff.
“Mae ein timau cymorth eisoes yn gwneud gwaith da,” meddai.
“Hoffwn i’r ymchwil hwn agor llygaid pobl i’r hyn sy’n bosibl ac i ddangos bod yr ymwybyddiaeth a’r addasiadau cywir yn golygu fod myfyrwyr ag ADHD yn gallu llwyddo ar bob lefel o addysg uwch.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.