Mae’r cynllun yn atgyfnerthu safle’r coleg fel un o’r darparwyr sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd mwyaf blaenllaw i ddysgwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled gogledd-ddwyrain Cymru a’r DU.
Gyda safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain mae Cambria wedi bod yn sefydliad allweddol yng nghanol y rhanbarth ers tro byd.
Mae’r strategaeth newydd yn amlinellu sut y bydd y coleg yn parhau i yrru twf a ffyniant gan sicrhau bod ei ddysgwyr yn teimlo fod ganddyn nhw’r gallu a’u bod nhw’n cael eu cynnwys a’u harfogi’n llawn i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Yn ganolog i’r cynllun mae cenhadaeth y coleg: “Creu dyfodol disgleiriach drwy ragoriaeth mewn addysg drwy feithrin sgiliau a gwybodaeth dechnegol mewn amgylchedd cefnogol ac arloesol.”
Dywedodd y Prif Weithredwr Yana Williams fod y strategaeth newydd yn ymwneud â llawer mwy na dosbarthiadau a chymwysterau.
“Mae ein dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn,” meddai.
“Nid paratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant academaidd a gyrfaol yn unig yw’r cynllun hwn. Mae’n ymwneud â meithrin eu hyder a’u hymdeimlad o berthyn.
“Rydym eisiau sicrhau fod pob unigolyn sy’n astudio neu’n gweithio gyda ni’n teimlo eu bod yn wirioneddol bwysig a bod ganddyn nhw lais a bod Coleg Cambria yn sefydliad sy’n eu galluogi nhw i gyflawni eu potensial llawn.”
Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio â chyflogwyr a phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu anghenion y byd go iawn ar gyfer heddiw ac yn y dyfodol.
Drwy sicrhau fod hyfforddiant a phrentisiaethau yn cwrdd â gofynion y farchnad lafur mae gan y coleg y nod o roi’r cyfleoedd gorau posibl i fyfyrwyr a phrentisiaid i ennill cyflogaeth neu brofiad gwaith ystyrlon yn ogystal â helpu busnesau i dyfu ac arloesi.
Ychwanegodd Ms Williams: “Mae Gogledd-ddwyrain Cymru yn gartref i gymaint o unigolion talentog a gyda photensial. Drwy weithio law yn llaw â chyflogwyr gallwn sicrhau bod ein dysgwyr yn ennill y sgiliau cywir ar gyfer swyddi heddiw a gyrfaoedd yfory.
“Ar yr un pryd, gallwn helpu busnesau i addasu, arallgyfeirio a chroesawu arloesedd mewn ffyrdd sy’n fuddiol i’r rhanbarth cyfan.”
Mae’r cynllun hefyd yn nodi ymrwymiad i gynaliadwyedd a thrawsnewid digidol. Bydd Cambria yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau sy’n effeithlon o ran ynni, arferion cynaliadwy a thechnolegau newydd gan baratoi dysgwyr i arwain mewn economi fwy gwyrdd a byd digidol mwy cysylltiedig.
Mae hyn yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, technolegau trochi a dulliau asesu modern gan sicrhau cynhwysiant fel bod pob dysgwr, waeth beth fo’u cefndir, yn gallu cael mynediad at arloesedd digidol a chael budd ohono.
Conglfaen arall i’r cynllun yw hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn unol â strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Bydd y coleg yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer astudio’n ddwyieithog lle byddwn yn cryfhau gweithgareddau diwylliannol ar draws ein safleoedd a chefnogi staff a myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.
Yn sail i’r holl strategaeth yw gwerthoedd cynhwysiant, uniondeb, arloesedd, ysbrydoliaeth a gwelliant Coleg Cambria.
Dywedodd yr Athro Tim Wheeler, cadeirydd llywodraethwyr y coleg: “Mae’r gwerthoedd hyn yn egwyddorion arweiniol a fydd yn llunio penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol. Rydym yn falch iawn o’n hanes ond mae’r cynllun hwn yn ymwneud â’r dyfodol.
“Mae’n ymwneud â bod yn uchelgeisiol ar gyfer ein dysgwyr, ein cydweithwyr a’n cymunedau. Rydym am arwain ar gynaliadwyedd, dathlu ein hunaniaeth Gymreig ac arwain ar arloesedd digidol, a hynny i gyd wrth ddal ein hunain i’r safonau addysgu a chefnogaeth uchaf.
“Yn fwy na dim mae’n ymwneud â chreu dyfodol mwy disglair i bawb sy’n dod i gysylltiad â Choleg Cambria.”
Mae Llywydd y Myfyrwyr Toby Taylor sydd o Sir Ddinbych yn astudio Lefel A mewn Cemeg, Bioleg a Ffiseg yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy.
Ychwanegodd: “Fel myfyrwyr, rydym yn gyffrous iawn am y Cynllun Strategol newydd hwn am ei fod yn ein rhoi ni wrth wraidd popeth.
“Mae’n dangos nad yw Coleg Cambria yn canolbwyntio ar ein helpu i lwyddo yn ein hastudiaethau yn unig ond hefyd yn canolbwyntio ar ein lles, ein llwybrau gyrfa a’n twf personol.
“Mae gwybod bod y coleg yn gweithio gyda chyflogwyr ac yn creu cyfleoedd yn rhoi hyder i ni ein bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnom mewn byd sy’n newid.
Yn bwysicach na dim mae’n gwneud i ni deimlo ein bod yn cael ein cefnogi fel unigolion gyda’n lleisiau’n cael eu clywed a’n dyfodol yn cael ei werthfawrogi.”
Mae’r Cynllun Strategol ar gyfer 2025–2030 yn nodi dechrau cyfnod cyffrous o dwf ac arloesedd – un sy’n addo trawsnewid bywydau, cryfhau cymunedau a sicrhau dyfodol mwy disglair i’r rhanbarth.
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.