Mae Victoria Upton, myfyrwraig Lefel 3 Blodeuwriaeth yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam wedi ennill y teitl mawreddog yn nigwyddiad FleurEx 2025 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Dwyrain Canolbarth Lloegr yn Nottingham.
Mae’r gwobrau’n dathlu rhagoriaeth ar draws y diwydiant blodau ac yn cael eu beirniadu gan arbenigwyr a phleidlais gyhoeddus.
Dim ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf y mae Victoria o Dudleston Heath ger Ellesmere, wedi darganfod ei diddordeb amlwg mewn blodeuwriaeth ar ôl iddi gwblhau gradd mewn Cerameg yn flaenorol.
“Flwyddyn yn ôl roedd fy sgiliau technegol yn reit sylfaenol ac felly dwi ddim yn gallu credu fy mod i wedi ennill y wobr hon,” meddai.
“Dwi wrth fy modd gyda’r canlyniad a dwi dal methu credu i fod yn onest. Mae Coleg Cambria wedi bod yn anhygoel – mae’r staff, y cyfleusterau a’r cymorth wedi fy helpu i droi gwreichionen greadigol yn fusnes go iawn.”
A hithau rŵan yn ei blwyddyn olaf o’i chymhwyster mae Victoria eisoes wedi lansio ei menter ei hun – Violet Hill Flower Company – sy’n hyrwyddo blodau tymhorol a dyfir yn lleol ac yn gweithio o’i stiwdio gartref a’i chae bach o flodau.
“Dechreuodd fy nhaith i flodeuwriaeth trwy’r weithred syml a llawn mwynhad o dyfu blodau,” meddai Victoria.
“O’r cychwyn cyntaf, persawr a cheinder y blodau a’m hysbrydolodd i greu dyluniadau cynaliadwy sy’n dathlu harddwch naturiol blodau tymhorol.
“Mae Coleg Cambria wedi fy arfogi gyda’r sgiliau a’r hyder i allu gwireddu’r freuddwyd honno.”
Dyma Victoria yn diolch i’w “theulu blodeuwriaeth” yn Cambria gan gynnwys y darlithydd dawnus Amanda Ellis, a oedd ei hun wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Tiwtor Blodeuwriaeth y Flwyddyn.
Mae Amanda wedi bod yn dysgu yn Cambria am fwy na 25 mlynedd. Meddai: “Dyma gyflawniad rhagorol gan Victoria. Mae hi wedi gweithio’n galed iawn ac wedi dangos creadigrwydd a phenderfyniad anhygoel – rydym i gyd mor falch ohoni.”
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Cambria yn elwa o brofiad yn y byd go iawn drwy siop Blodau Iâl sef y siop flodau hyfforddi ar safle Iâl y coleg sy’n helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant.
Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, gan gynnwys ei gyrsiau Blodeuwriaeth, ewch i’r wefan yma: www.cambria.ac.uk.
Ewch i Violet Hill Flower www.violethillflowercompany.co.uk a dilynwch @violethillflowercompany ar y cyfryngau cymdeithasol