Background Splash

Gan Alex Stockton

naomiandellaBAKERY

Mae Naomi Spaven ac Ella Muddiman sy’n astudio ar gyfer eu Diploma Lefel 3 mewn Hyfedredd Pobi wedi bod yn ganolog i lwyddiant y becws.

Cafodd Naomi o’r Wyddgrug ei henwi fel y Seren Newydd yng Ngwobrau’r Diwydiant Pobi (BIA) y llynedd, tra bod Ella o Gaer wedi derbyn Gwobr Hugh Weeks am ei hymroddiad a’i chefnogaeth i eraill yn y sector.

Mae eu gwobrau unigol wedi taflu goleuni ar y becws sydd wedi’i leoli ar safle Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam ac wedi helpu i ddenu mwy o gwsmeriaid o bob cwr o’r gymuned.

Dros y 12 mis diwethaf mae Becws Iâl wedi gweld niferoedd cynyddol o fyfyrwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd yn dod trwy ei ddrysau am fara artisan, danteithion melys a phrydau tymhorol.

Cafodd proffil y coleg hwb pellach ar ôl cynnal Cynhadledd Pobi Cymru yn gynharach eleni gan groesawu unigolion blaenllaw o bob cwr o’r diwydiant.

Yn eu plith oedd cynrychiolwyr o Bako a gafodd eu plesio gymaint gan yr unigolion talentog gyda hynny’n eu hysbrydoli nhw i lansio eu Menter Pobyddion Ifanc gyntaf erioed mewn partneriaeth â Cambria a Wrights sy’n rhan o The Compleat Food Group.

Dyma’r fenter yn gwahodd myfyrwyr i drawsnewid cynnyrch Nadoligaidd o syniad ar lawr y dosbarth i lansio’r cynnyrch yn fasnachol – ac fe lwyddodd Ella a Naomi i gyflawni’r her honno.

Dywedodd Ella: “Mae gweld ein syniadau’n symud o fecws y coleg i gynnyrch ar raddfa fawr yn Wrights a’u gwerthu ledled y wlad yn anhygoel. Roeddwn yn browd iawn o gael mynd i’r ffatri a gwylio’r cynnyrch yn dod yn fyw.

“Mae gennym ni syniadau eisoes ar gyfer Calan Gaeaf a Nadolig 2025 – mae cael y drwydded i fod yn greadigol yn anhygoel.”

Ar ôl wythnosau o ystyried syniadau, profi a gwella ryseitiau fe greodd y ddwy dri chynnyrch Nadoligaidd: Sleisen Goffi Gwyddelig gyda haenau o garamel coffi a hufen gwirod Gwyddelig; Sleisen Goedwig Ddu wedi’i moderneiddio a Sleisen Nadoligaidd o Gyw Iâr, Brie a Llugaeron a oedd yn ychwanegiad sawrus at y gyfres dymhorol.

Bydd canran o’r elw yn cael ei ailfuddsoddi mewn cronfa sy’n cefnogi pobyddion ifanc y dyfodol er mwyn sicrhau bod y fenter yn cael effaith barhaol.

Ychwanegodd Naomi: “Mae’r prosiect hwn wedi rhoi profiad ymarferol i ni o ddatblygu cynhyrchion newydd yn ogystal â phrofi ryseitiau i’w gwella ar gyfer cynnyrch masnachol.

“Mae bod yn rhan o rywbeth y gall pobl ledled y DU ei fwynhau yn anhygoel. Mae cael cydbwysedd o ran ein hastudiaethau Lefel 3 â gweithio yn y becws wedi bod yn ffordd berffaith o ddysgu a chael effaith wirioneddol ar y diwydiant.”

Mae’r cyfle i gydweithio wedi bod yn brofiad amhrisiadwy i’r ddwy o ran yr ochr fasnachol o bobi.

Yn ogystal â datblygu ryseitiau roedd cyfle hefyd i fod yn rhan o’r broses tynnu ffotograffau o’r cynnyrch, y gwaith celf a chyflwyniadau gwerthu gan roi cipolwg llwyr iddyn nhw o sut y mae cynnyrch newydd yn datblygu o fod yn syniad i gyrraedd y farchnad.

Dywedodd Maria Stevens, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol yng Ngholeg Cambria: “Mae Becws Iâl wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers ei lansio ac mae Ella a Naomi wedi bod yn ganolog i hynny.

“Mae eu hegni, eu harloesedd a’u sgiliau wedi ein rhoi ni ar y map ac wedi dangos yr hyn y gall talent ifanc ei gyflawni gyda’r platfform cywir – rydym yn hynod falch o’r ddwy.

Gydag Ella unwaith eto ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Seren Newydd BIA mae enw da’r becws yn parhau i dyfu gan gadarnhau safle Coleg Cambria fel canolfan ar gyfer meithrin y genhedlaeth nesaf o bobwyr talentog. 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost