Bydd staff a darlithwyr o safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam yn mynd i’r afael â her 12 mynydd, mewn 12 mis, gan ddringo rhai o gopaon mwyaf eiconig Cymru er budd hosbisau plant Tŷ Gobaith a Hope House.
Wedi’i arwain gan Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Dechnoleg ac Arweinydd Safle Ffordd y Bers, bydd y tîm cadarn o 22 yn dringo dros 11.95 km (39,189 troedfedd) o uchder mynydd – yr uchder cyfatebol i awyren fasnachol ar lefel criwsio.
Mae’r grŵp yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ac o leiaf £1,500 yn ystod y flwyddyn ar gyfer yr elusen, sy’n darparu gofal a chymorth hanfodol i blant sydd â chyflyrau sy’n peryglu eu bywyd a’u teuluoedd ar draws Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Canolbarth a Gogledd Cymru.
“Rydyn ni’n hynod o falch o fod yn ymgymryd â’n her fwyaf hyd yma fel tîm – 12 mynydd mewn 12 mis er budd Tŷ Gobaith a Hope House,” meddai Karl.
“Dyma fydd yr her fwyaf i ni ei hwynebu, ond rydyn ni’n gwybod y bydd pob cam yn werth chweil i gefnogi achosion mor anhygoel.
“Ein nod ydi codi o leiaf £1,500 dros y flwyddyn nesa’, ac er mi fydd yr olygfa yn syfrdanol, mi fydd y dringo yn anodd iawn.
“Dwi mor falch o’r staff a’r darlithwyr sy’n cymryd rhan, a gyda’n gilydd rydyn ni’n benderfynol o wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Ar ôl cwblhau cyfres o heriau lladdfaol yn y gorffennol – gan gynnwys Sialens y Gwch Fwy, Tri Chopa Cymru, a’r Crazy 7 ar gyfer Cerrig Camu Gogledd Cymru, a’r daith ‘Freezing Fingers’ dros fynyddoedd Rhinogydd yn Eryri – dywedodd Karl mai dyma fydd eu prawf mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn.
Bydd y dringfeydd yn dechrau y mis yma gyda Chadair Idris, cyn i’r criw daclo: Yr Wyddfa, Moel Siabod, Foel Fras, Carnedd Llewelyn, Arenig Fawr, Aran Fawddwy, Y Garn, Glyder Fawr, Elidir Fawr, Pen yr Ole Wen, a Phen y Fan.
Dywedodd Bethan Young, Swyddog Codi Arian Ardal ar gyfer Ty Gobaith a Hope House: “Mae Karl a’r tîm o safle Ffordd y Bers yn hollol wych.
“Maen nhw bob amser yn mynd yr ail filltir i ni ac y tro yma maen nhw wir yn gwthio eu hunain yn uwch ac yn uwch.
“Mae 12 mynydd mewn 12 mis yn anhygoel ac mae gweld cymaint ohonyn nhw yng Nghymru yn wych hefyd.
“Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n cymryd rhan a bydd pob ceiniog fyddech chi’n ei chodi yn mynd yn uniongyrchol i ofal a chefnogaeth plant a theuluoedd lleol sy’n byw gyda chyflwr sy’n peryglu bywyd.”
Mae Tŷ Gobaith a Hope House yn gweithredu dwy hosbis a 15 siop ac mae angen iddyn nhw godi £7.5 miliwn bob blwyddyn i barhau i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol.
Gallai cefnogwyr noddi Karl a’r tîm yma: Mae Karl Jackson yn codi arian ar gyfer Tŷ Gobaith a Hope House
Am ragor o wybodaeth am yr elusen, ewch i www.hopehouse.org.uk.