learners playing pool in the common room

Croeso i’n safle Ffordd y Bers! Mae’r adran hon yn eich cyflwyno chi i’r prif gyfleusterau a gwasanaethau sydd wedi’u dylunio i wneud eich profiad coleg yn llyfn a chefnogol.

Archwiliwch ardaloedd hanfodol fel ein llyfrgell, gweithdai, siop goffi a rhagor drwy ein teithiau 3D yn ogystal â’n fideo safbwynt er mwyn i chi weld sut fydd eich diwrnod cyntaf yn Ffordd y Bers yn edrych. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i deimlo’n gyfforddus a hyderus o’r diwrnod cyntaf.

Taith Rithwir 360°

Os ydych chi erioed wedi bod eisiau gweld sut olwg sydd ar y safle cyn i chi ymweld neu ddechrau eich taith gyda ni, erbyn hyn gallwch chi wneud hynny o gartref.

Os oes gennych chi benset VR, gallwch chi wylio’r daith mewn rhithrealiti.

Cliciwch Isod i Wylio: Eich Diwrnod Cyntaf yn Ffordd y Bers (Fideo Safbwynt)

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Angen gwybodaeth yn sydyn? Defnyddiwch y dolenni isod i archwilio adnoddau allweddol fel opsiynau cludiant, cymorth llesiant, a gwasanaethau myfyrwyr.

P’un ai eich bod chi’n cynllunio’ch taith neu’n chwilio am arweiniad, mae popeth sydd ei hangen arnoch chi ar gael ar flaenau eich bysedd.