Background Splash

Gan Alex Stockton

KateandFamilyGWRYCHCASTLE

Mae Kate, o Dremeirchion ger Llanelwy – y meddwl creadigol y tu ôl i The Craft Shed Flowers – wedi hen arfer bod yn seren y sioe.

Cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Cambria, roedd hi’n gyfrifol am greu coron enillydd y rhaglen I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here! Pan gafodd ei ffilmio yng Nghastell Gwrych yn Abergele, ac mae ei gwaith blodeuwriaeth wedi ymddangos ar ystod o raglenni teledu gan gynnwys Hollyoaks, The Responder, Songs of Praise a drama S4C Rownd a Rownd.

Yn ystod yr haf eleni, cyflwynodd Kate ei chreadigrwydd i bartneriaeth newydd gyda Ystad 12,500 erw Rhug, ger Corwen, lle dyluniodd lle dyluniodd a gosododd arddangosfeydd blodau ar gyfer y caffi a siop y fferm.

“Mae wedi bod yn gymaint o fraint gweithio gydag Ystâd Rhug. Maen nhw wedi rhoi’r rhyddid i mi wir allu dangos fy nghreadigrwydd, ac mae’r tîm wedi bod mor gefnogol o’m syniadau,” meddai hi.

“Mae gweld pobl yn stopio i dynnu llun a gwenu wrth iddyn nhw gerdded drwy’r lle wedi bod mor werth chweil.”

Mae perchennog yr ystâd, yr Arglwydd Niwbwrch, yn canmol ei gwaith ac mae’n credu bod yr arddangosfeydd anhygoel wedi “trawsnewid yr awyrgylch”, gan ddod â ffrwydrad o liw a chreadigrwydd.

Mae llwybr gyrfa Kate wedi bod mor unigryw â’i dyluniadau. Cyn-ddisgybl yn Ysgol Bodfari ac Ysgol Santes Ffraid yn Ninbych, gwnaeth hi hyfforddi mewn blodeuwriaeth yn Llaneurgain cyn cwblhau gradd mewn Ffasiwn, Manwerthu, Brandio a Marchnata Gweledol yng Ngholeg Ffasiwn Llundain.

Gwnaeth hi hogi ei llygad am ddylunio arddangosfeydd o safon wrth weithio gyda Ralph Lauren, cyn mynd ymlaen i fod yn rhan o grŵp a enillodd fedal aur yn Sioe Flodau Chelsea eleni – Chelsea in Bloom ar gyfer gosodiad H&M.

Heddiw, mae hi’n cydbwyso ei busnes blodau’n ddidrafferth, ochr yn ochr â chysyniadau creadigol mawr ar gyfer cleientiaid mawr – gan gynnwys The Ivy a Selfridges Oxford Street – a gwaith teledu.

Eleni mae Kate hefyd wedi gweithio fel dylunydd cynhyrchu ar ddwy raglen ar gyfer y BBC ac S4C a fydd yn cael eu dangos yn hwyrach eleni a’i breuddwyd yn y pen draw ydy cyfuno ei doniau blodeuwriaeth a’i sgiliau dylunio set ar gynhyrchiad ffilm fawr.

Ychwanegodd Kate: “Fy angerdd ers erioed ydy trawsnewid lleoedd ac ennyn emosiwn, p’un ai fod hynny ar gyfer gweithdy lleol, manwerthwr moethus, neu set deledu.

“Dwi wir yn mwynhau cyfuno fy ngyrfa mewn teledu a blodeuwriaeth – dau fyd sy’n fy ysbrydoli mewn ffyrdd gwahanol ond maen nhw’n ategu ei gilydd yn berffaith. Dwi’n gyffrous iawn i weld beth ddaw yn y dyfodol.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost