Mae Simona Kostova wedi canmol ei hamser yn y coleg – sydd gyda safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – ar ôl sicrhau prentisiaeth gradd cyfreithiwr.
Wedi’i magu ym Mwcle ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Elfed mae teulu Simona yn dod o Fwlgaria yn wreiddiol. Mae hi wedi bod yn ffynnu yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy Cambria diolch i gefnogaeth ei darlithwyr.
Mae Simona bellach yn symud i Fanceinion i ddechrau ar brentisiaeth chwe blynedd o hyd i fod yn gyfreithiwr cymwys gan gyfuno ei hastudiaethau gyda gwaith fel cyfreithiwr dan hyfforddiant. Dros y blynyddoedd nesaf bydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol gan symud ymlaen yn raddol at reoli ei hachosion ei hun cyn cymhwyso.
Dywedodd Simona sy’n gobeithio arbenigo mewn twyll a hawliadau modur twyllodrus: “Ro’n i wrth fy modd yn astudio yn Cambria – roedd y cymorth gan staff a darlithwyr yn anhygoel. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at yr her sydd o fy mlaen lle byddaf yn ennill fy ngradd wrth weithio hefyd.”
Mae Simona yn un o sawl dysgwr o Lannau Dyfrdwy sy’n dathlu llwyddiant ac yn paratoi i gymryd y camau nesaf mewn addysg a chyflogaeth.
Cyflawnodd Isabelle King radd A yn y Gyfraith, A* mewn Cymdeithaseg ac A mewn Gwleidyddiaeth. Mae hi’n mynd i’r brifysgol i astudio Newyddiaduraeth Ddarlledu wedi iddi gael ei hysbrydoli gan yr amrywiaeth eang o ddewisiadau a’r addysgu llawn cymorth yn Cambria.
Cyflawnodd Alexander McLean radd A* mewn Cymraeg, A mewn Gwleidyddiaeth, C mewn Hanes a B ym Magloriaeth Cymru. Uchafbwynt ei gyfnod yn y coleg oedd cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd lle daeth yn ail yng nghystadleuaeth fawreddog Medal y Dysgwr. Ei gam nesaf yw astudio Gwleidyddiaeth yn y brifysgol.
Sicrhaodd Sam Mawdsley raddau da mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Ffiseg a Bagloriaeth Cymru ac mae o’n bwriadu dilyn gradd Ffiseg gydag Astroffiseg ym Mhrifysgol Caerhirfryn.
Meddai Mim Riddell, Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy a Phennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Academaidd: “Mae Simona a’i chyfoedion yn enghreifftiau disglair o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy waith caled, penderfyniad a’r addysgu rhagorol yng Ngholeg Cambria. Dymunwn y gorau iddyn nhw ar gam nesaf eu taith.”