Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Long-serving lecturer Amanda Ellis

Unwaith eto mae darlithydd profiadol Amanda Ellis wedi cyrraedd rownd derfynol categori Tiwtor y Flwyddyn Blodeuwriaeth yng Ngwobrau Diwydiant mawreddog Cymdeithas Flodau Prydain.

Ochr yn ochr â hi, mae Victoria Upton wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer teitl a fawr chwenychir Myfyriwr y Flwyddyn Blodeuwriaeth, gan nodi moment balch i’r mentor a’r dysgwr.

Mae Amanda, o Ysbyty Ifan, Conwy, wedi addysgu yn Cambria ers dros 25 mlynedd, gan ddechrau yn yr hen Goleg Garddwriaeth Cymru yn Llaneurgain cyn symud i safle Iâl yn Wrecsam, cartref Blodau Iâl.

Mae’r siop flodau yn lle i fyfyrwyr hyfforddi, cael profiad ymarferol, o wasanaethau i gwsmeriaid i fodloni terfynau amser, gan sicrhau eu bod nhw’n barod ar gyfer y diwydiant.

“Dwi wedi fy mhlesio’n arw i gael fy enwi eto, a beth sy’n ei wneud yn fwy arbennig ydy gweld Victoria’n cyrraedd y rownd derfynol – dwi mor falch ohoni,” meddai Amanda.

“Dwi wedi bod yn angerddol am addysgu blodeuwriaeth ers mwy na dau ddegawd, ac mae’n fendigedig gweld y proffesiwn yn cael cydnabyddiaeth fel hyn.

“Nid creu trefniadau hardd yn unig ydy blodeuwriaeth – mae’n fwy na hynny, mae’n gyfuniad o gyfrifoldeb, cynllunio a chyfathrebu. Pan mae ein myfyrwyr yn dylunio blodau priodas, er enghraifft, maen nhw’n chwarae rhan allweddol o ddiwrnod mawr rywun. Mae hynny’n her a braint.”

Mae darpariaeth blodeuwriaeth Cambria yn cynnig ystod eang o gyfleoedd, o astudio academaidd i ddosbarthiadau hobi.

Mae Amanda’n dweud bod y gofyn yn uwch nag erioed: “Mae ein dosbarthiadau nos yn Llysfasi yn ffynnu, ac rydyn ni wedi cael profiadau arbennig mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, lle mi wnaethom ni greu penwisgoedd o flodau i blant ac ymwelwyr.

“P’n ai ei fod yn duswau, torchau, neu ddathliadau tymhorol, mae yna rywbeth newydd i’w ddysgu o hyd – a dwi’n dal i garu pob eiliad.”

Mae Gwobrau Cymdeithas Flodau Prydain yn dathlu rhagoriaeth ar draws y diwydiant flodau, wedi’u beirniadu gan banel o arbenigwyr a phleidlais gyhoeddus. Bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod FleurEx 2025, sy’n cael ei gynnal ym mis Hydref yng Nghanolfan Gynadledda Dwyrain Canolbarth Lloegr yn Nottingham.

Gallwch chi bleidleisio ar gyfer Amanda a Victoria yma: Gwobrau Cymdeithas Flodau Prydain 2025.

Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, gan gynnwys cyrsiau Blodeuwriaeth, ewch i’r wefan yma: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost