Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

NorthopStudents

Mae’r coleg – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi – wedi cyhoeddi cyfres o gyrsiau hygyrch rhan-amser a fydd yn dechrau ym mis Medi.

Ymhlith y pynciau mae Gweithdy Makaton, Cynorthwywyr Twtio Cŵn, Arwain a Rheoli, TGAU Bioleg, Chwistrellu Sylfaenol, a Chyflwyniad i Serameg.

Gallai’r rhai sydd eisiau astudio cwrs sy’n canolbwyntio ar ddatblygu personol a phroffesiynol hefyd wneud cais i astudio Mathemateg a Saesneg, Addysg a Hyfforddiant, a Rheoli Anifeiliaid.

Dywedodd y pennaeth Sue Price: “Mae ein hystod eang o gyrsiau rhan-amser yn amlygu’r perthnasoedd cadarn rydyn ni wedi’u hadeiladu gyda chyflogwyr yn y sector gyhoeddus a phreifat.

“Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid y diwydiant i ddylunio rhaglenni academaidd sy’n berthnasol ac ymarferol, gan sicrhau bod dysgwyr yn gallu uwchsgilio ar gyfer dilyniant gyrfa neu ennill y cymwysterau maen nhw eu hangen i archwilio cyfleoedd gyrfa newydd.”

Ychwanegodd Mrs Price: “Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau dysgu i oedolion a’r gymuned, yn ogystal â rhaglenni Sgiliau i Oedolion, sy’n cael eu cyflwyno ar ein safleoedd yn y Gogledd Ddwyrain ac o fewn cymunedau lleol.

“Mae cyllid ar gael drwy Gyfrif Dysgu Personol ar gyfer llawer o’r rhain, gan wneud dysgu’n fwy hygyrch a fforddiadwy.

“P’un ai eich bod chi eisiau cymryd y cam nesaf yn eich taith broffesiynol gyda chymhwyster cydnabyddedig, neu rydych chi awydd rhoi cynnig ar rywbeth newydd – efallai hobi creadigol neu ddiddordeb personol – rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Beth bynnag ydy’ch nodau, rydyn ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i’w cyflawni nhw.”

Mae sefydliadau achrededig sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r coleg yn cynnwys NEBOSH, IOSH, Llywodraeth Cymru, City and Guilds, Lantra, CIPD, Prince2, a Dysgu Cymraeg.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gwrs rhan-amser yng Ngholeg Cambria, anfonwch e-bost at enquiries@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.

Fel arall, ewch i Oedolion a Rhan-amser < Coleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost