Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

SuePrice

Mae darlithwyr, ymgynghorwyr, a staff gweinyddu yn barod i gynnig arweiniad, sicrwydd, a chyngor ymarferol i unrhyw un sy’n ansicr am eu graddau neu’n ystyried eu camau nesaf.

P’un ai bod dysgwyr yn archwilio Safon Uwch, prentisiaethau, neu hyfforddiant galwedigaethol, mae Cambria yno i helpu.

Er mwyn cynorthwyo’r criw TGAU eleni, mae’r coleg hefyd yn cynnal diwrnodau agored heddiw ac yfory (21/22 Awst) o 9am ar ei safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llaneurgain, a Llysfasi.

Mae’r digwyddiadau ar gael i’r holl ddarpar ddysgwyr sydd eisiau dechrau cwrs ym mis Medi, yn ogystal â rhieni a gwarcheidwaid.

Dywedodd y pennaeth Sue Price bod y coleg wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n hyderus a’u bod nhw’n cael eu cefnogi wrth iddyn nhw gynllunio eu dyfodol.

“Rydyn ni’n deall bod hyn yn gallu bod yn amser llawn straen ac emosiwn i lawer o ddysgwyr a’u teuluoedd,” meddai hi.

“Yng Ngholeg Cambria, ein blaenoriaeth ydy darparu cyngor clir ac archwilio’r holl opsiynau. P’un ai eich bod chi’n anelu at Safon Uwch, yn edrych ar brentisiaethau neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu yn y gwaith, mi wnawn ni’ch helpu chi i ddarganfod y llwybr sydd orau i chi.”

Ychwanegodd Mrs Price: “Rydyn ni hefyd yma i’r disgyblion sydd efallai heb gael y graddau roedden nhw’n gobeithio eu cael. Yn Cambria mae cymaint o opsiynau a chyrsiau gwahanol, gwaeth beth fo’ch canlyniadau, gallwn ni eich helpu chi.

“Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â chi os ydych chi’n ansicr o unrhyw beth. Mae gennym ni dîm arbennig a gofalgar sy’n barod i’ch arwain chi at gam nesaf cadarnhaol.”

Yn ogystal â chymorth wyneb yn wyneb, mae’r coleg yn cynnig gwasanaeth sgwrsio byw a diweddariadau rheolaidd ar ei wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth neu i siarad ag aelod o’r tîm derbyniadau, ewch i www.cambria.ac.uk, ffoniwch 0300 30 30 007, neu anfonwch e-bost at ymholiadau@cambria.ac.uk.

Ewch i Diwrnodau Agored Mis Awst < Coleg Cambria am ragor o wybodaeth am ddiwrnodau agored.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost