Home > Myfyrwyr Newydd 25/26 > Cludiant i Fyfyrwyr Newydd
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydy cael cludiant dibynadwy a fforddiadwy pan rydych chi’n dechrau mewn lle newydd.
O docynnau bws i amserlenni, mi wnawn ni eich helpu chi i ddeall eich opsiynau a chynllunio’ch taith mewn ffordd sy’n gweddu’ch ffordd o fyw.
Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, peidiwch â phoeni – cysylltwch â cludiant@cambria.ac.uk am unrhyw ymholiadau.
Cliciwch yma neu sganiwch y Cod QR isod.
Rydyn ni yma i’ch helpu chi i fynd i’r coleg ac oddi yno’n ddiogel a hawdd. Dyma ychydig o atebion i gwestiynau cyffredin am gludiant yn Cambria:
O fis Medi 2025, bydd cyfraniad â chymhorthdal o £90 y tymor yn cael ei gyflwyno i bob dysgwr sy’n defnyddio cludiant coleg.
Mae hyn yn gyfraniad tuag at eich tocyn bws, gyda Choleg Cambria’n talu gweddill y gost.
Os ydych chi’n ansicr ynghylch eich safle bysiau neu lwybr dynodedig, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk neu’r tîm Cludiant ar cludiant@cambria.ac.uk.
Ar gyfer mynediad mis Medi 2025, cliciwch ar y ddolen hon a llenwch y ffurflen google, mi wnawn ni anfon dolen talu atoch chi. Gallwch chi gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi’n methu’r bws: Eich cyfrifoldeb chi ydy gwneud yn siŵr eich bod chi yn eich safle bws dynodedig mewn pryd. Os ydych chi’n methu’r bws, bydd angen i chi wneud trefniadau eraill i gyrraedd y coleg.
Os dydy’r bws ddim yn dod: Ffoniwch Rif Ffôn Cludiant y Coleg ar 01978 515454 neu ewch i weld y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.
Mi wnawn ni ymchwilio i’r broblem gyda’r darparwr bysiau a’ch cynghori chi ar y camau nesaf.
Ydych, mae’n bosib i chi gael cymorth ariannol. Os ydych chi’n poeni am fforddio’r ffi cludiant â chymhorthdal, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gall ein tîm drafod opsiynau i chi fel y Gronfa Ariannol Wrth Gefn, Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) (i fyfyrwyr 16-18 oed), neu’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Uwch (i fyfyrwyr 19+).
Bydd, mi fydd yn rhaid i’r holl ddysgwyr sy’n teithio ar gludiant y coleg fod â Thocyn Bws Coleg Cambria dynodedig. Mae hwn yn gerdyn penodol ar gyfer cludiant, sy’n wahanol i’ch cerdyn adnabod cyffredinol y coleg. Dylech chi fod yn barod i ddangos y tocyn yma i’r gyrrwr.
Oes, mae pob safle Coleg Cambria yn darparu mannau dynodedig ar gyfer parcio beiciau diogel. Gwiriwch fapiau’r safle neu gofynnwch i’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr am union leoliadau rheseli beiciau diogel. Ar gyfer sgwteri, gwnewch yn siŵr eu bod nhw wedi’u parcio’n ddiogel ac nad ydyn nhw’n rhwystro llwybrau.
Os ydych chi’n colli’ch Tocyn Bws Coleg Cambria, rhowch wybod i’r Gwasanaethau Myfyrwyr cyn gynted â phosib. Mi wnawn ni roi cyngor i chi ar y broses o gael un newydd. Mae ffi o £15.00 i gael un newydd.
Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’ch llwybr, peidiwch â phoeni! Rydyn ni wrth law i ddod o hyd i’r ffordd gyflymaf a hawsaf i chi’n cyrraedd ni. Ffoniwch ni ar 0300 30 30 007 ac mi wnawn ni roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i deithio’n ddiogel i’r coleg ac yn ôl.
Gallwch chi hefyd weld amserlenni bysiau’r coleg a’r mannau casglu gan ddefnyddio’r lawrlwythiadau defnyddiol isod.