Mae Lilly Noble, dysgwr Safon Uwch yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy, wedi cael ysgoloriaeth 100% i fynychu Prifysgol Murray State yn Kentucky.
Yno, bydd hi’n astudio Ffisiotherapi wrth gystadlu i dîm trac a maes o fri’r Brifysgol.
Cafodd y ferch 17 oed, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau Safon Uwch mewn Addysg Gorfforol, Seicoleg a Bioleg yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, ei sgowtio’n fuan wedi iddi droi’n 16 oed gan Onfield, asiantaeth recriwtio chwaraeon arbenigol.
Yn dilyn cyfres o alwadau a chyfweliadau â phrifysgolion Americanaidd, dewisodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd y Fflint Brifysgol Talaith Murray yn sgil ei chynigion academaidd ac athletaidd, yn ogystal â’r cyfle i ddatblygu ei huchelgeisiau chwaraeon a phroffesiynol.
“Fy nod yn y pen draw yw cystadlu’n broffesiynol mewn athletau, gan freuddwydio cymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad ac, un diwrnod, y Gemau Olympaidd,” meddai Lilly.
“Dwi’n teimlo’n gyffrous dros ben ynglŷn â dechrau’r bennod nesa hon yn America a chael profiad amhrisiadwy ar y trac ac yn yr ystafell ddosbarth.”
Mae Lilly yn priodoli ei llwyddiant i gefnogaeth barhaus ei hathrawon a’i hyfforddwyr.
“Dwi’n hynod ddiolchgar i staff Coleg Cambria am y gefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwetha,” meddai.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r darlithwyr a Mim Riddell am eu hanogaeth gyson.”
Canmolodd Mrs Riddell, Pennaeth Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy a Phennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Academaidd, ysgogiad ac ymroddiad Lilly:
“Mae Lilly yn fyfyrwraig eithriadol sydd wedi dangos ymrwymiad aruthrol i’w hymdrechion academaidd ac athletaidd,” meddai.
“Mae ei chyflawniad yn dyst i’w gwaith caled a’i gwydnwch. Rydyn ni’n hynod falch ohoni ac yn methu aros i weld popeth y bydd hi’n ei gyflawni yn Murray State a thu hwnt.”
Diolchodd Lilly o galon hefyd i’w rhieni a’i hyfforddwyr sydd wedi bod yn allweddol yn y daith hyd yn hyn: “Allwn i ddim bod wedi gwneud hyn heb eu cariad a’u cefnogaeth.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am astudio ar gyfer Safon Uwch yng Ngholeg Cambria. Fel arall, anfonwch e-bost at admissions@cambria.ac.uk, ffoniwch 0300 30 30 007 neu defnyddiwch yr adnodd Sgwrsiwch rŵan! | Cymorth i Gwsmeriaid ar y wefan.