Astudiodd Matthew Barnes, sy’n wreiddiol o’r Fflint ac sydd bellach yn byw yn y ddinas, Safon Uwch mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Astudiaethau’r Cyfryngau, Saesneg Iaith, a Bagloriaeth Cymru yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy’r coleg.
Mae’r bachgen 23 oed wedi mynd ymlaen i gyflawni llwyddiant academaidd a phroffesiynol, gan raddio’n ddiweddar o Brifysgol Sheffield gyda gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu, a BA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth.
Yn ystod ei astudiaethau ôl-raddedig, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth Dan Walker i Matthew ac enillodd y wobr am y Perfformiad Cyffredinol Gorau yn ei raglen MA.
Bellach yn gweithio fel swyddog cyfryngau a chyfathrebu, dechreuodd ei daith i galon gwleidyddiaeth y DU wrth astudio yng Ngholeg Cambria, ac mae’n rhoi clod i hyn am roi’r hyder a’r annibyniaeth iddo archwilio ei ddiddordebau.
“Roedd fy amser yn Cambria yn wych,” meddai.
“O’r diwrnod cyntaf, fe ges i fy nhrin fel oedolyn a chael cefnogaeth gan diwtoriaid gwych a wnaeth fy annog i wthio fy hun.
“Roedd astudio Gwleidyddiaeth Safon Uwch heb unrhyw gefndir yn her, ond fe agorodd y drws i’r yrfa dwi ynddi rŵan – gan weithio ochr yn ochr ag Aelodau Seneddol, cyfoedion a newyddiadurwyr yn San Steffan.”
Cwblhaodd Matthew ei Wobr Aur Dug Caeredin hefyd tra yn y coleg a mynegodd ei werthfawrogiad i Jo Jones, ei diwtor Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, am ei chefnogaeth barhaus.
Wrth longyfarch Matthew ar ei gyflawniadau, dywedodd Mim Riddell, Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy a Phennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Academaidd: “Rydyn ni’n hynod falch o Matthew a phopeth mae o wedi’i gyflawni mor gynnar yn ei yrfa.
“Mae bob amser yn ysbrydoledig gweld ein cyn-fyfyrwyr yn ffynnu mewn meysydd mor gystadleuol a dylanwadol. Rydyn ni’n dymuno llwyddiant parhaus i Matthew yn San Steffan a thu hwnt.”
Mae cyngor Matthew i fyfyrwyr presennol yn syml: “Cofiwch ymddiried yn eich greddf, dilynwch eich diddordebau, a pheidiwch byth â thanamcangyfrif ble gall angerdd a dyfalbarhad fynd â chi.”
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am astudio cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Cambria. Fel arall, anfonwch e-bost at derbyniadau@cambria.ac.uk, ffoniwch 0300 30 30 007 neu defnyddiwch y cyfleuster Sgwrs Fyw! | Cymorth i Gwsmeriaid Coleg Cambria ar y wefan.