Bydd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK eleni – a elwir yn ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ – yn digwydd yng Nghymru am y tro cyntaf o Dachwedd 26–28, gyda chystadlaethau’n cael eu cynnal ar draws pum lleoliad.
Gan gynrychioli safleoedd Cambria yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi, a Llaneurgain, bydd tîm elitaidd y coleg o fyfyrwyr a phrentisiaid yn mynd benben â’r gorau yn y DU.
Y cystadleuwyr yw:
- Cynnal a Chadw Awyrennau – Robert Jones (Airbus UK)
- Cynnal a Chadw Awyrennau – Hannah Back (Airbus UK)
- Cynnal a Chadw Awyrennau – Patrick Dunne (Coleg Cambria)
- Therapydd Harddwch – Evie McManus (Coleg Cambria)
- Therapydd Harddwch – Lydia Roberts (Coleg Cambria)
- Melino CNC – Jo Arrowsmith (Coleg Cambria)
- Melino CNC – Tomos Roberts (Coleg Cambria)
- Gwneuthurwr Metel – Mark Wright (Coleg Cambria)
Dywedodd Robert Jones, Arweinydd Cystadleuaeth Sgiliau Cambria: “Mae cael eich dewis ar gyfer WorldSkills UK yn arwydd gwirioneddol o ragoriaeth, ac mae ein tîm wedi ennill eu lle ymhlith goreuon y genedl trwy ymroddiad a gwaith caled.
“Dim cystadleuaeth yn unig ydi hon – mae’n gyfle i’r dysgwyr yma godi’r safon, profi eu hunain ar lwyfan cenedlaethol, a gwneud Cymru’n falch. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr hyn maen nhw’n ei gyflawni ac yn hyderus y byddan nhw’n cyflwyno perfformiadau rhagorol. Pob lwc i bawb!”
Bydd y rownd derfynol yn gweld 417 o gystadleuwyr o bob cwr o’r DU yn brwydro mewn 47 categori, gan ddathlu’r gorau mewn addysg dechnegol a galwedigaethol.
Mae Cymru wedi’i chynrychioli’n dda, gyda 120 o ymgeiswyr terfynol yn sicrhau eu lle ar ôl rhagori yn y rowndiau rhagbrofol. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y wlad ar ôl i Lywodraeth Cymru bartneru’n swyddogol â WorldSkills UK ac Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, cyn-ddysgwr yng Ngholeg Cambria: “Mae’r cystadlaethau yma’n dangos gwerth a chymwysiadau prentisiaethau yn y byd go iawn ac maen nhw’n amhrisiadwy wrth ddiogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol.
“Dwi’n falch bod Cymru yn cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU 2025. Mae gennym ni wlad brydferth, a gobeithio y bydd pob ymwelydd yn cymryd ychydig o amser i’w harchwilio.”
Ewch i www.worldskillsuk.org i gael rhagor o wybodaeth am WorldSkills UK.