Background Splash

Gan Alex Stockton

HerdVision Scanning

Mae Coleg Cambria Llysfasi wedi gosod HerdVision ar ei fferm weithredol ac mae’n elwa o’r manteision yn barod.

Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar gyllid a chynaliadwyedd, mae gan y system Amaethyddiaeth Glyfar – sy’n defnyddio technoleg camera is-goch 2D a 3D, ynghyd ag algorithmau clyfar a phrosesu ymyl, i gasglu data sy’n cael ei anfon at weinydd i’w weld ar ap o fewn eiliadau – effaith fawr ar iechyd, ffrwythlondeb a chynhyrchiant llaeth yr anifail.

Mae gan Cambria 280 o wartheg godro ar y safle ac mae pob un yn cael ei fonitro’n ddyddiol, gan ddarparu “rhybudd cynnar” “na fydd bob amser yn cael ei godi gan y llygad noeth” i sicrhau bod y gwartheg yn parhau i fod yn gynhyrchiol ac yn effeithlon.

Dywedodd Rheolwr Fferm Llysfasi, Dewi Jones: “Fe wnaethon ni osod HerdVision ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ym mis Medi ac rydyn ni’n gweld y manteision yn barod.

“Mae’r system yn monitro symudiad a chyflwr y corff, sy’n amhrisiadwy wrth ystyried cynhyrchu llaeth, ffrwythlondeb, tocio traed a ffactorau eraill.

“Dydy hyn ddim yn lleihau’r sgil a’r reddf o adnabod yr anifeiliaid, eu hymddygiadau a chanfod problemau’n naturiol – cloffni neu golli archwaeth, er enghraifft – ond mae’n rhoi mwy o wybodaeth i chi i helpu i lunio penderfyniadau a gallwch chi ragweld pryd mae problemau’n codi a’r ffordd orau o ddelio efo nhw.”

Ychwanegodd: “Mae’r gwartheg yn mynd trwy’r camerâu ddwywaith y dydd ac mae’r data’n cael ei anfon yn syth atom ni, sy’n anhygoel.”

“Mae wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr wrth i ni symud yn fwy tuag at amaethyddiaeth fanwl gywir, y manylion ar gyfer gwartheg unigol ond hefyd y deinameg grŵp, unrhyw newidiadau a pha atebion sydd eu hangen arnom ni – mae’n offeryn rhyfeddol ac mae wedi bod yn ychwanegiad gwych at y dechnoleg sydd gennym ni yma’n barod.”

Mae canfod gwartheg cloff yn awtomataidd yn caniatáu ymyrraeth gynnar a gostyngiad sylweddol yng nghost y clefyd llethol.

Mae monitro symudedd byw trwy HerdVision yn caniatáu triniaeth gynnar – yr allwedd i adferiad cyflym a chyflawn, gan amharu cyn lleied â phosib ar y fuwch a’i chynhyrchiant.

Mae’r feddalwedd dadansoddi ‘mewn-blwch’ camera digidol a chyfrifiadura cwmwl, wedi’u dwyn ynghyd mewn rhyngwyneb gwe, yn galluogi ffermwyr, eu milfeddygon a’u maethegwyr, i wneud defnydd o fesuriadau canlyniad manwl gywir, cyson a rheolaidd 365 diwrnod y flwyddyn.

Dywedodd cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol HerdVision, Matthew Dobbs, fod y dechnoleg newydd hon yn mynd yn fyd-eang ac eisoes yn cael ei defnyddio mewn gwledydd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Seland Newydd, Wrwgwái a ledled Ewrop.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Choleg Cambria ac yn falch eu bod wedi teimlo manteision sylweddol ac effaith gadarnhaol yn ystod y misoedd diwethaf,” meddai.

“Yn y pen draw, gall HerdVision fesur a monitro anifeiliaid i lawer mwy o fanylder gan ganiatáu rhybudd cynnar a mewnwelediad, sy’n arbennig o bwysig gyda buchesi godro mwy.

Ychwanegodd Hannah Grummett, Rheolwr Perthynas HerdVision a’r coleg: “Yn llythrennol, rydyn ni’n gallu monitro sgôr y corff i’r milimetr, felly mae’n creu darlun manwl iawn o’u hiechyd a’u lles.

“Dim ond rhan o’r ateb ydi hwn, rydyn ni’n gweithio gyda’r fferm – yn yr achos hwn y coleg – a phartneriaid eraill, milfeddygon a chynghorwyr fel tîm cyfan i sicrhau effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.”

Adleisiodd Prif Swyddog Milfeddygol HerdVision, Georgia Thresh, y geiriau hynny a dywedodd y bydd y system ei hun yn gwneud gwahaniaeth i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr llaeth a llawfeddygon milfeddygol.

“Gyda thechnoleg gweledigaeth, os gallwch chi ei gweld, gallwch chi ei mesur, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’n partneriaeth gyda Choleg Cambria a gweld i ble mae’r dechnoleg honno’n mynd â ni yn y blynyddoedd i ddod,” ychwanegodd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan: HerdVision | Automated cow health and productivity monitoring

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost