Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A men's suicide prevention charity will launch a new peer-to-peer support group in North Wales.

Mae’r coleg – sydd gyda safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain, Llysfasi a Wrecsam wedi lansio tomen o gyrsiau’r mis Medi hwn mewn partneriaeth â’r grŵp dysgu Pearson sef corff dyfarnu mwyaf y DU.

Mae’r cyrsiau’n cynnwys Lletygarwch, Marchnata Digidol a Mentergarwch ac E-chwaraeon.

Mae’r cyrsiau’n deillio o Strategaeth Sgiliau Technegol Uwch y mae Cambria wedi’i lunio i wella mynediad a chyfranogiad, annog datblygu ac arloesi o fewn y cwricwlwm, ac i greu partneriaethau mewn aml ddiwydiant i lenwi’r bylchau mewn arbenigedd a phrofiad yn rhanbarthol.

Meddai Emma Hurst sy’n Ddeon Addysg Uwch a Mynediad: “Mae’r cymwysterau addysg uwch newydd hyn wedi cael eu datblygu’n ofalus ar y cyd ag arweinwyr diwydiant i sicrhau fod graddedigion gyda’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd ei angen ar gyflogwyr.

“Fel bod dysgu academaidd yn cyd-fynd â gofynion y byd go iawn rydym yn galluogi myfyrwyr i fod yn barod am waith, yn arloesol ac ar reng flaen eu sectorau a chefnogi nid yn unig eu cynnydd gyrfaol yn eu swydd gyntaf ond hefyd yn agor drysau i ddyrchafiad a chyfleoedd proffesiynol newydd.”

Meddai Donna Pritchard, Rheolwr Partneriaethau a Chydymffurfiaeth Addysg Uwch y byddan nhw hefyd yn parhau i hyrwyddo Digidol 2030 – sgiliau digidol, hyder ac arloesedd mewn addysgu a dysgu; gan gyfarparu dysgwyr fel eu bod yn gallu defnyddio technolegau sy’n datblygu’n barhaus i’w gwir botensial yn cynnwys Deallusrwydd Artiffisial (AI).

“Rydym eisiau i Sgiliau Technegol Uwch fod yn flaenoriaeth mewn byrddau cynghori cyflogwyr ac i gyfrannu at ddatblygu a chyd-greu cwricwlwm gan sicrhau fod rhaglenni wedi’u teilwra i gwrdd â gofynion parhaus y farchnad lafur lleol,” meddai Donna.

“Ein gweledigaeth yw cael gwared ar y rhwystrau ac i helpu wella sgiliau mewn meysydd lle mae galw amdanynt a thargedu achosion canolog fel y Gymraeg, cynaliadwyedd a sero net – rydym yn gweithio’n llwyddiannus i gyflawni hynny gyda Pearson a rhanddeiliaid eraill.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch Coleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fel arall, ffoniwch 01978 515477 neu anfonwch e-bost at  he@cambria.ac.uk.

Bydd digwyddiadau agored i oedolion yn cael eu cynnal yng Nglannau Dyfrdwy, Ffordd y Bers ac Iâl yn Wrecsam ar ddydd Mercher 4 Mehefin o 4pm-7pm. Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle ewch i: Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion < Coleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost