Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Ice Cream Van

Ers dydd Llun – ac mewn partneriaeth gyda Sefydliad Iechyd Meddwl a Cholegau Cymru – mae’r coleg wedi bod yn cynnal sesiynau llawn gwybodaeth a gweithgareddau llawn hwyl i fyfyrwyr a staff ledled ei safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Yn cynnwys sefydliadau partner a chymorth i fyfyrwyr mae’r rhaglen yn ategu gwasanaeth trwy gydol y flwyddyn gan y coleg sy’n cynnig arweiniad, cwnsela a chyfeirio ar gyfer ein dysgwyr.

Meddai Cydlynydd Iechyd Meddwl a Llesiant Cambria, Bethan Williams: “Mae’r ymgyrch hwn wedi rhoi platfform i ni ddangos y gwaith sy’n cael ei wneud bob wythnos yng Ngholeg Cambria yn ogystal â’r amgylchedd cynnes a chroesawgar sydd gennym yn y coleg,

“O gymorth un-i-un gyda chynghorwyr llesiant, hyfforddwyr a chwnselwyr i’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ar ein safleoedd yng ngogledd ddwyrain Cymru, mae’r sgil effaith wedi bod yn gadarnhaol iawn o ran cadw dysgwyr ac yn bwysicach na dim, o ran iechyd a hapusrwydd.”

Ychwanegodd y Cydlynydd Iechyd Meddwl a Llesiant, Levi Jamieson: “Rydym hefyd wedi cynnal gweithdai hyfforddiant i staff ac wedi sicrhau fod adnoddau ar gael iddyn nhw sydd o ganlyniad yn gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy hyderus a’u bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi.”

Yn ôl Lizzie Stevens, Cyfarwyddwr Cynhwysiant a Chynnydd Cambria, mae’r coleg yn ymfalchïo mewn rhoi pobl yn gyntaf.

Ychwanegodd: “Mae’r tîm a minnau wedi rhoi sgyrsiau, gweithdai a chyflwyniadau yn yr holl safleoedd trwy gydol y flwyddyn ac mae yna lawer wedi ymrwymo i’n ‘diwylliant o garedigrwydd’ ac mae pobl yn ein cefnogi ac eisiau creu’r amgylchedd gorau posib.

“Mae’r byd yn le heriol yn arbennig ar gyfer pobl ifanc; ac rydym yn ymwybodol o hynny ac yn cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif nid yn unig fel addysgwr ond mewn cynnal gwerthoedd cymdeithasol a’r cyfan i gyd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a llesiant.”

Yn ogystal â thomen o ddosbarthiadau chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff sy’n cael eu cynnal gan y Tîm Llesiant a Cambria Heini – yn arbennig Ioga Cysgu, Deuathlon Cynhwysol, Cynllun Dug Caeredin a hyrwyddo gweithgareddau corfforol ymysg merched ifanc – mae diwrnodau a digwyddiadau lles ar themâu yn cynnwys straen arholiadau, perthnasau a ‘hylendid cwsg’.

Mae sefydliadau ac elusennau partner fel Youth Cymru, Mind, Gofalwyr Ifanc WCD, Advance Brighter Futures, y Samariaid, Papyrus, Cerrig Camu, Riding for the Disabled (RDA) a Therapy Dogs wedi ymweld â safleoedd y coleg a’r olaf yn hynod boblogaidd gyda dysgwyr sy’n ei chael yn anodd ymdopi gyda gorbryder a diffyg hyder.

Roedd  Cambriafest  sy’n ŵyl amrywiaeth a chynhwysiad a gynhelir yn flynyddol ac wedi’i drefnu gan dîm Llais Myfyrwyr yn llwyddiant ysgubol unwaith eto gyda hyd at 1,000 o bobl yn mwynhau cerddoriaeth fyw ac adloniant yng Nglannau Dyfrdwy ac Iâl Wrecsam.

Mae arolwg o fynychwyr wedi canfod fod 50% yn dweud bod y digwyddiad wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a 75% yn teimlo bod y digwyddiad wedi codi eu hysbryd ar ôl cyfnod arholiadau sy’n gallu bod yn straen i lawer o bobl.

Lansiwyd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (sy’n cael ei gynnal tan ddydd Sul, 18 Mai) gan y Sefydliad yn 2001 ac eleni bydd yn “dathlu pŵer a phwysigrwydd cymuned”.

“Mae bod yn rhan o gymuned ddiogel a chadarnhaol yn hanfodol i’n hiechyd meddwl a’n llesiant” meddai’r elusen.

“Rydym yn ffynnu pan fydd gennym gysylltiadau cryf gyda phobl eraill ac mae cymunedau cefnogol yn ein hatgoffa nad ydym ar ben ein hunain. Mae cymunedau yn gallu rhoi ymdeimlad o berthyn, diogelwch, cymorth mewn amseroedd caled a rhoi ymdeimlad o bwrpas i ni.”

Mae gweithgareddau’r wythnos yn cynnwys gwneud breichledau, disgo distaw, crefft a chynaliadwyedd, peintio, cyfansoddi caneuon, helfa drysor, creu basgedi helyg, teithiau cerdded meddylgarwch, addurno cerrig, garddio a rhagor.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan:Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Sefydliad Iechyd Meddwl.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gymorth i fyfyrwyr a’r gwasanaethau sydd ar gael ewch i www.cambria.ac.uk.

Am fwy o wybodaeth ar gymorth i fyfyrwyr anfonwch e-bost at llesiant@cambria.ac.uk neu www.cambria.ac.uk/student-support

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost