Enillodd Dylan Morris a Henry Garner, sy’n ddysgwyr yng Ngholeg Cambria, ddigwyddiad Menter yr Ifanc Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Wrecsam gyda’u brand o ddillad actif a ffordd o fyw newydd arloesol – MountForce.
Roeddent yn fuddugol yn y categorïau Gwobr y Beirniaid a Rhaglen y Cwmni a byddant yn mynd ymlaen i gystadlu yn rowndiau terfynol Cymru yng Nghaerdydd fis nesaf (Mai), ar ôl creu argraff gyda’u cyflwyniad a’u hagweddau cadarnhaol.
Mae’r myfyrwyr Busnes, Teithio a Digwyddiadau Lefel 1 yn hyderus y byddant yn llwyddo yn y dyfodol ac yn mynd â’u menter gychwynnol “i’r lefel nesaf”.
“Roedden ni’n cystadlu yn erbyn myfyrwyr Busnes Safon Uwch o ysgolion yng Ngogledd Cymru, felly rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ennill,” meddai Dylan, 18, o Wrecsam.
“Fe wnaethon ni baratoi llawer a gweithio’n galed i adeiladu ein brand cyn edrych ar y cynnyrch, y gweithgynhyrchu a’r strategaeth, ac fe dalodd hynny ar ei ganfed yn y pen draw, er bod rhai meysydd y byddwn yn mynd ati i’w gwella mewn pryd ar gyfer Caerdydd.
“Er bod hyn yn wych ar gyfer y gystadleuaeth, rydyn ni wir yn credu yn MountForce fel ystod dillad a ffordd o fyw ac rydyn ni wedi ymrwymo i’w symud ymlaen ochr yn ochr â’n hastudiaethau ac yn edrych ymlaen at y rowndiau terfynol cenedlaethol.”
Ychwanegodd Henry, 17, o Benyffordd: “Yn ogystal â’r cynnyrch, rydyn ni eisiau adeiladu cymuned, gofod positif ar gyfer iechyd a llesiant yn ogystal â chwaraeon ac ymarfer corff.
“Nid gwerthu dillad yn unig yw ein nod, ond darparu gwybodaeth, helpu ein cwsmeriaid a meithrin momentwm ar ac oddi ar-lein.
“Mae ennill y gystadleuaeth wedi rhoi cadarnhad i ni ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad iawn, felly rydyn ni’n diolch i Fenter yr Ifanc a’r coleg am y cyfle ac am roi’r offer a’r sgiliau i ni lwyddo.”
Canmolodd y darlithydd Viktoriya Hughes nhw am y diwydrwydd, y creadigrwydd a’r ymroddiad a ddangoswyd wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad Menter yr Ifanc.
“Allwn i ddim bod yn fwy balch ohonyn nhw am ennill rownd derfynol Gogledd Cymru,” meddai.
“Gweithiodd Dylan a Henry yn galed gan ddangos lefel wych o benderfyniad ac ymrwymiad.
“Roedd rhaglen Menter yr Ifanc yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a arweiniodd at eu buddugoliaeth lwyddiannus.
“Mae hwn yn gyflawniad gwych i’n myfyrwyr ac yn gynrychiolaeth wych o Goleg Cambria – da iawn i chi’ch dau!”
Am ragor o wybodaeth am Fenter yr Ifanc, ewch i MyI Gogledd Cymru – Menter yr Ianc ac Arian yr Ifanc.
Ewch i www.cambria.ac.uk am y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria.
Dilynwch @mountforceuk ar Instagram am y diweddaraf am daith fusnes Dylan a Henry.