Mae Bwrdd Llywodraethu y Coleg (a elwir hefyd yn Fwrdd y Gorfforaeth) yn cynnwys 21 Aelod sydd a phrofiad o nifer o feysydd ag ystod eang o sgiliau ac arbenigedd. Mae dau Lywodraethwr Myfyrwyr, dau Lywodraethwr Staff a Llywodraethwr Cyswllt – Partneriaeth Gymdeithasol ymysg yr aelodau.
Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am reoli’r coleg yn effeithlon, gan gynnwys:
Mae’r cyfrifoldebau hyn wedi’u nodi yn Erthyglau Llywodraethu’r Coleg fel yr amlinellir yn Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (Llywodraeth) 2013. Cadeirydd y Corff Llywodraethu yw’r Athro Tim Wheeler. Mae Prif Swyddog Gweithredol Coleg Cambria, Yana Williams, hefyd yn aelod o’r Corff Llywodraethu.
Mae pob aelod yn cytuno i lynu wrth y Cod Ymddygiad pan fyddant yn derbyn eu swydd fel aelod o’r Corff Llywodraethu neu aelod cyfetholedig o bwyllgor. Maent hefyd yn cytuno i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan). Mae rôl Llywodraethwr yn un gwirfoddol, di-dâl.
Cefnogir y Corff Llywodraethu gan y Pwyllgorau canlynol:
Mae gan ein tîm o lywodraethwyr ystod anhygoel o brofiad, gwybodaeth a sgiliau sy’n hynod o fuddiol i Goleg Cambria a phawb sy’n ymwneud â’r Coleg. Maent yn gyfrifol am solfedd ariannol y coleg, rheoli effeithiol a safonau’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu.
Maent yn gyfrifol am ddefnyddio arian cyhoeddus a ymddiriedir iddynt yn gywir. Mae aelodau o’r corff llywodraethu yn rhan annatod o waith y coleg ac yn ddigon hael i roi eu hamser a’u harbenigedd. Cyfnod swydd yr aelodau yw 4 blynedd, ac eithrio myfyrwyr sy’n cael eu penodi yn y swydd am flwyddyn.
Mae Tim wedi cadeirio Bwrdd y Llywodraethwyr ers 2021 ar ôl cael ei benodi i’r Bwrdd yn 2017.
Yn Is-Ganghellor Prifysgol Caer hyd ei ymddeoliad yn 2020, cafodd Tim ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Yn ystod ei yrfa, bu’n dal swyddi mewn prifysgolion yn Lloegr, Iwerddon a’r Alban, a bu’n Uwch Ysgolor Ymchwil Gwadd yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen.
Mae llawer o’i waith wedi ymwneud ag ymgynghoriaethau academaidd a diwydiannol yn gyda phrofiadau ar draws Ewrop, America, Tsieina ac Awstralia. Mae wedi cyhoeddi erthyglau, llyfrau ac adroddiadau ymchwil mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys dyslecsia, seicoffarmacoleg, cyfathrebu a diogelwch.
Mae gan Tim brofiad helaeth fel Llywodraethwr yn y sector addysg ac mae hefyd yn Aelod o Gyngor Prifysgol Bangor. Mae’n Ddirprwy Raglaw Swydd Gaer ac yn Ganon Lleyg yn Eglwys Gadeiriol Caer. Mae hefyd yn Rhyddfreiniwr Dinasoedd Llundain a Chaer.
Fe benodwyd Yana Williams yn Brif Weithredwr Coleg Cambria ym mis Ionawr 2020. Cafodd ei haddysg mewn ysgol gynradd ac uwchradd yn yr Wyddgrug, a chwblhaodd ei hastudiaethau Lefel A yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy.
Mae hi’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a cafodd ei swydd addysgu gyntaf yng Ngholeg Cymunedol Knowsley, Lerpwl. Yn ddiweddarach, symudodd i Goleg Runshaw yn Swydd Gaerhirfryn, cyn ail-ymuno â Choleg Glannau Dyfrdwy mewn swydd reoli, gan oruchwylio’r cwricwlwm mewn amrywiaeth eang o feysydd, o waith adeiladu i’r maes arlwyo.
Yna, aeth ymlaen i swydd Is-bennaeth yng Nholeg Blackburn a Choleg Hugh Baird, Lerpwl ar ôl hynny, lle bu’n Brif Weithredwr/Bennaeth am 8 mlynedd.
Ymunodd Martina â Choleg Cambria fel Llywodraethwr yn 2021. Mae wedi bod yn Llywodraethwr mewn ysgol gynradd yn Sir y Fflint ers 2014 ac dal swydd yr Is-Gadeirydd. Mae Martina hefyd yn mentora Cyrff Llywodraethu ysgolion cynradd.
Mae’n aelod annibynnol o Banel Apeliadau Ysgolion a Gwaharddiadau yn Wrecsam ac mae wedi cymryd rhan mewn Paneli Apeliadau ar gyfer awdurdodau lleol eraill.
Ers 2018 mae Martina wedi bod yn Arolygydd Lleyg i Estyn.
Cafodd ei geni a’i magu yn yr Almaen a graddiodd o Brifysgol Cologne gyda gradd mewn Saesneg a Ffrangeg. Bu’n gweithio fel cyfieithydd i’r Fyddin Brydeinig ar y Rhein cyn treulio blwyddyn yn Kampala/Uganda fel gweinyddwr prosiect i’r GTZ (Cymorthyr Almaen). Ar ôl symud i’r DU bu Martina’n gweithio ym maes hedfan fel tiwtor iaith ac aelod o griw caban. Ar hyn o bryd mae hi’n ddarlithydd rhan amser gyda Choleg Gorllewin Swydd Gaer ac yn astudio am Radd Meistr.
Mae gan Martina brofiad diweddar fel rhiant i ddysgwr o Goleg Cambria.
Mae’r Barnwr Dutton wedi bod yn Lywodraethwr yng Ngholeg Cambria ers 2022. Wedi’i eni a’i fagu yn Wrecsam derbyniodd ei addysg ysgol gynradd ac uwchradd yn y dref cyn graddio yn y Gyfraith o Brifysgol Caint.
Bu’n gweithio’n lleol fel bargyfreithiwr tan 1996, nes ei benodi yn un o Farnwyr Cylchdaith Ei Mawrhydi i eistedd ar Gylchdaith Cymru a Chaer; ef oedd y barnwr ieuengaf i gael ei benodi i’r Fainc Cylchdaith. Penodwyd y Barnwr Dutton yn Farnwr Preswyl ac Uwch yn Llys y Goron Caer yn 2016 a daeth hefyd yn Gofiadur Anrhydeddus Dinas Caer. Yn 2010 fe’i penodwyd yn Ganghellor ac yn Farnwr Llys Consistori ar gyfer Esgobaeth Llanelwy.
Wedi ei ymddeoliad yn 2018 dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith iddo gan Brifysgol Caer yn 2019 mewn cydnabyddiaeth o’i wasanaeth.
Mae Roger wedi gwasanaethu ei gymuned gyda brwdfrydedd dros nifer o flynyddoedd gan gynnwys bod yn aelod o’r Rotary, yn Llywodraethwr Prifysgol Glyndŵr, warden eglwys Yr Orsedd, ac yn Lywydd Cyngor Barnwyr Cylchdaith Ei Mawrhydi. Mae’n Gadeirydd Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Cadeirlan Caer.
Yn fabolgampwr egnïol yn ei ddyddiau iau, mae Roger yn ddilynwr brwd o chwaraeon, yn enwedig Rygbi Cymru, criced, a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.
Yn Aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Coleg Cambria ers 2023, mae gan Lee dros 38 mlynedd o brofiad yn y Diwydiant Cyllid. Mae wedi ymddeol yn ddiweddar o fod yn Gyfarwyddwr a pherchennog Williams Financial Planning Ltd yn Wrecsam lle rhoddodd gyngor arbenigol i unigolion, busnesau ac elusennau.
Graddiodd Lee o Brifysgol Cymru ac mae’n briod gyda 3 o blant. Cefnogwyd dau o blant Lee drwy addysg bellach ar eu ffordd i’r gweithle a’u gyrfaoedd eu hunain.
Yn fabolgampwr ymroddedig pan yn iau mae Lee yn parhau i fod yn feiciwr brwd ac yn gefnogwr ffyddlon i Aston Villa. Mae Lee yn angerddol dros gerddoriaeth ac yn chwarae mewn band R&B lleol.
Ymunodd Martin â Choleg Cambria fel Llywodraethwr yn 2022.
Martin yw Pennaeth yr Academi Ddiwydiannol ar gyfer Airbus ac mae wedi’i leoli ym Mrychdyn. Wedi gweithio yn y sector awyrofod ers dros 30 mlynedd ar draws Ewrop a’r Unol Daleithiau, mae Martin wedi dal swyddi uwch mewn Ansawdd, Peirianneg Gweithgynhyrchu a Rheoli/Gwella Perfformiad.
Mae Martin yn aelod gweithgar o’r Grŵp Gweithio Gweithgynhyrchu yn y ‘Bartneriaeth Twf Awyrofod’, yn Llysgennad ‘Awyrofod Cymru’, ac yn Llywodraethwr lleol yn Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle.
Yn ei amser hamdden, mae Martin yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, beicio a gwylio chwaraeon, yn enwedig clwb pêl-droed Wrecsam.
Penodwyd Gareth i Fwrdd Coleg Cambria yn 2020.
Mae Gareth yn Gymrawd o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol ac yn gyn-Gadeirydd Panel Cymru CARAS (Cyngor Gwobrau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol) a bu’n Gadeirydd Rhanbarth Cymru Sefydliad Moredun Mae’n Aelod o Banel Apeliadau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig.
Astudiodd Gareth yng Ngholeg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth. Ar ôl cyfnod ar fferm odro yn Seland Newydd treuliodd amser yn rheoli ffermydd cig eidion, defaid a thir âr yng Nghanolbarth Cymru, a bu’n gweithio fel arbenigwr cig eidion i’r Comisiwn Cig a Da Byw.
Mae Gareth wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl blynyddoedd o weithio fel Rheolwr Fferm Stad ar Stad Rhug yng Nghorwen, busnes ffermio organig sy’n ymestyn i dros 6,000 erw, gyda chyfleusterau manwerthu, siop fferm a gyrru drwodd.
Mae Jill yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a risg. Mae’n aelod profiadol o fyrddau, arweinydd busnes a chynghorydd, yn gweithredu yn anweithredol ar gyfer ystod amrywiol o sefydliadau.
Mae hi’n Gyfrifydd Siartredig, ac mae ganddi lawer o gysylltiadau ac mae’n uchel ei pharch yn y gymuned fusnes. Hyd at 2020, hi oedd Partner Rheoli Rhanbarthol RSM, y 7fed cwmni cyfrifwyr mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac aelod o Dîm Arweinyddiaeth Cenedlaethol y cwmni, Prif Gyfarwyddwr y Bwrdd a Phrif Swyddog Gweithredol Dros Dro.
Yn Llywodraethwr gyda chysylltiadau cryf â Choleg Cambria, ailymunodd Geoff â’r Bwrdd yn 2022. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg.
Wedi’i eni a’i fagu yn Wrecsam, cwblhaodd Geoff ei lefelau A yng Ngholeg Chweched Dosbarth Iâl cyn ymuno â’r GIG i hyfforddi mewn cyfrifeg. Mae wedi bod yn Gyfrifydd Siartredig cymwys (CIPFA) ers 1989.
Treuliodd Geoff ei holl yrfa yn gweithio i sefydliadau’r GIG ar draws Gogledd Cymru a daliodd sawl rôl Cyfarwyddwr Gweithredol yn ystod ei yrfa, ym meysydd cyllid a rheolaeth gyffredinol. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad fel Aelod Bwrdd.
Ymunodd Jayne â Bwrdd Coleg Cambria yn 2021.
Yn gyn-ddisgybl o Goleg Chweched Dosbarth Iâl, mae Jayne yn dal gyda’i chysylltiadau cryf â Wrecsam. Mae’n eiriolwr dros symudedd cymdeithasol, cyfleoedd cyfartal a chodi dyheadau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Astudiodd y Gyfraith yn Lerpwl ac yn dilyn canmoliaeth yn ei Chwrs Ymarfer Cyfreithiol yng Ngholeg y Gyfraith, dechreuodd Jayne ei gyrfa gyfreithiol o 25 mlynedd yn gweithio gwaith achos eang iawn i Gyfreithwyr Allington Hughes. Dilynodd Jayne ei hangerdd ac mae bellach yn arbenigo mewn gwaith troseddau gan weithio yn un o ardaloedd erlyn mwyaf y DU yng Nglannau Mersi a Swydd Gaer.
Mae gan Jayne ddiddordeb brwd yn natblygiad eraill, mae’n gweithio fel disgybl-feistr, mentor ac mae wedi cynorthwyo i hyfforddi bargyfreithwyr newydd gymhwyso yn Gray’s Inn. Mae hi wedi ymddangos yn rhaglen ddogfen y BBC The Prosecutors yn ogystal â newyddion BBC North West yn trafod y system cyfiawnder troseddol.
Mae gan Jayne brofiad fel rhiant i ddysgwr diweddar yng Ngholeg Cambria.
Yn Llywodraethwr Coleg Cambria ers 2023, mae gan Paul dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyllid.
Cyn ymddeiol roedd Paul yn gyfarwyddwr perthynas yn adran gorfforaethol Banc Barclays PLC yn delio ag amrywiaeth eang o gleientiaid yn y farchnad BBaChau.
Mae Paul yn gyn-ddisgybl o Goleg Chweched Dosbarth Iâl ac yn dal i fyw yn Wrecsam.
Mae wedi dal sawl rôl Llywodraethwr mewn ysgolion ar lefel Cynradd ac Uwchradd,yn gyn-aelod o fwrdd Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin ac mae’n fentor Ymddiriedolaeth y Tywysog sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n dechrau busnes.
Mae Paul yn gefnogwr hirsefydlog o Glwb Pêl-droed Wrecsam ac mae’n frwd deos godi arian i elusennau ac mae wedi cwblhau sawl her gan gynnwys dringo Kilimanjaro yn 2022.
Ymunodd Anna â Bwrdd Coleg Cambria yn 2021 a hi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cwricwlwm a Safonau.
Ar ôl gweithio yn y sector addysg am 47 mlynedd, ymddeolodd Anna o’i rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caer yn 2020.
Mae Anna wedi cael gyrfa amrywiol ym myd addysg gan gynnwys mewn addysg uwch ac mewn addysg gynradd yn Sir y Fflint/Clwyd fel pennaeth Ysgol Fabanod Llanelwy.
Yn dilyn 18 mlynedd yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) lle bu’n arwain addysg athrawon cynradd, cymerodd Anna swydd ym Mhrifysgol Caer yn 2002 lle bu’n Ddeon y Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Plant, yn Ddirprwy Is-Ganghellor, a hefyd yn Brofost y Ganolfan Brifysgol newydd Amwythig.
Mae Anna wedi gweithio dramor ym Mhalestina, America a Sweden. Wedi gweithio gydag Estyn, mae gan Anna brofiad sylweddol fel arholwr allanol rhaglenni Addysg Uwch. Mae’n parhau â’i diddordeb mewn addysg trwy ei phrofiad fel Llywodraethwr ysgol ac Addysg Bellach.
Yn aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Archwilio a Risg, ymunodd Jane â Choleg Cambria yn y rôl hon yn 2022.
Mae Jane yn gyfrifydd siartredig sydd wedi arbenigo mewn addysg ac elusennau ers dros 25 mlynedd. Ar hyn o bryd mae hi’n uwch reolwr yn y tîm Elusen ac Addysg yn WR Partners, cwmni cyfrifeg lleol. Yn ystod ei gyrfa, mae Jane wedi gweithio gyda nifer o golegau Addysg Bellach, ymddiriedolaethau academi, ysgolion annibynnol ynghyd ag amrywiaeth o elusennau a sefydliadau dielw eraill.
Yn gyn-ddisgybl o gyn Goleg Chweched Dosbarth Iâl, mae Jane hefyd yn rhiant i ddysgwyr diweddar yng Ngholeg Cambria ac yn byw yn y ddinas.
Yn ei hamser hamdden mae Jane yn mwynhau cerdded, dysgu sut i chwarae golff, ac mae’n gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae Sara yn Llywodraethwr Staff (Cwricwlwm) ac ymunodd â Bwrdd y Llywodraethwyr yn 2023.
Mae Sara yn Ddarlithydd Sgiliau Sylfaen ac yn Arweinydd Cwricwlwm yn yr adran Addysg Sylfaen i Oedolion.
Cafodd ei haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at y Brifysgol. Mae gan Sara radd israddedig mewn Addysg ac ADY, cymhwyster addysgu a gradd Meistr.
Mae gan Sara brofiad helaeth o weithio gyda myfyrwyr mewn amrywiaeth o sectorau. O weithio mewn ysgolion cynradd i HMP Berwyn, carchar categori C i ddynion yn Wrecsam. Mae hi’n angerddol am bwysigrwydd darparu’r offer a’r adnoddau cywir i unigolion ddatblygu, llwyddo a chefnogi unigolion i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Fel Llywodraethwr Staff, mae Sara yn cynorthwyo’r coleg i fod yn amgylchedd gwaith cynhwysol, tryloyw a chadarnhaol wrth gyfrannu ei safbwynt i gorff llywodraethu Coleg Cambria.
Yn Llywodraethwr Coleg Cambria ers 2023, mae Claire yn bartner gyda chyfreithwyr Aaron and Partners.
Yn ei gwaith, mae Claire yn cynrychioli ystod eang o gyflogwyr. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda chwmnïau gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol a CDPau, sefydliadau elusennol, a chleientiaid y sector addysg.
Mae ei hymarfer yn cynnwys cefnogi a chynghori byrddau (gan gynnwys cyrff llywodraethu) a busnesau ar ystod eang o faterion cymhleth sy’n sensitif i amser.
Yn siaradwr cyhoeddus gweithgar sy’n ymroddedig i addysgu cyflogwyr a’u timau am arferion gorau, mae Claire wedi rhoi cyflwyniadau mewn ddigwyddiadau cenedlaethol, mae hefyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi mewnol allanol a phwrpasol ar faterion cyfoes yn y maes cyfraith cyflogaeth.
Mae Claire yn arwain y tîm addysg ac yn gweithredu fel mentor a swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, urddas yn y gwaith, lles yn y gwaith ac atal hunanladdiad.
Mae ei hymarfer yn cynnwys cefnogi a chynghori Byrddau (gan gynnwys cyrff llywodraethu) a busnesau ar ystod eang o faterion cymhleth sy’n sensitif i amser.
Yn siaradwr cyhoeddus gweithgar sy’n ymroddedig i addysgu cyflogwyr a’u timau am arferion gorau, mae Claire wedi rhoi cyflwyniadau mewn digwyddiadau cenedlaethol gan gynnwys cynadleddau gweithio hyblyg a hybrid cenedlaethol diweddar ACAS, mae hi hefyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi mewnol allanol a phwrpasol ar faterion cyfoes ym maes cyfraith cyflogaeth.
Mae Claire yn arwain y tîm addysg ac yn gweithredu fel mentor a swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl yn Aaron and Partners ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, urddas yn y gwaith, lles yn y gwaith ac atal hunanladdiad.
Mae Jayne wedi bod yn Llywodraethwr Cyswllt – Partneriaethau Cymdeithasol ers 2024.
Ar ôl ymuno â Choleg Cambria ym maes NVQ a Phrentisiaethau, mae Jayne erbyn hyn yn ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Coleg Cambria yn dysgu cyrsiau lefel uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Hi yw’r Arweinydd Rhaglen Gradd Rheolaeth Busnes Cymhwysol a gyflwynir trwy bartneriaeth â Phrifysgol Abertawe, ac mae hefyd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglenni arweinyddiaeth a rheolaeth.
Yn Uwch Gynrychiolydd Partneriaeth Gymdeithasol dros Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, mae Jayne yn gweithio’n agos gyda’r adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y coleg; hi yw ysgrifennydd cangen undeb UCU.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae Jayne ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer MSc/PhD mewn Rheolaeth Uwch gyda Phrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar Arloesi a Thrawsnewid.
Gyda chefndir hirsefydlog yn y sector Addysg Bellach, yn flaenorol roedd Jayne yn y fyddin. Y tu allan i’w gwaith ac astudiaethau mae Jayne yn mwynhau amrywiaeth o brosiectau creadigol o adfer carafanau, celf, gwaith coed i ddylunio a datblygu gêm fwrdd!
Mae’r Athro Christian Dunn yn wyddonydd, darlithydd, a Dirprwy Is-Ganghellor Cyswllt – Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor.
Gyda chefndir mewn gwyddor amgylcheddol ac angerdd dros gyfathrebu, mae Christian wedi addysgu a chefnogi myfyrwyr ar bob lefel, o allgymorth ysgolion i oruchwyliaeth ôl-raddedig.
Mae wedi arwain mentrau recriwtio ac ehangu cyfranogiad prifysgol, ac fel cyn-newyddiadurwr, mae Christian yn dod â ffocws cryf ar ymgysylltu â’r cyhoedd i’w waith, gan ymddangos yn rheolaidd ar y radio cenedlaethol, y teledu, ac mewn print.
Yn ogystal â’i ymchwil ar wyddoniaeth gwlypdiroedd a datrysiadau sy’n seiliedig ar natur, mae Christian yn siaradwr cyhoeddus, mae wedi traddodi tair sgwrs TEDx ac mae’n ymgyrchydd amgylcheddol arobryn.
Yn 2024, enwyd Christian yn Rhestr Pŵer ENDS fel un o’r 100 gweithiwr proffesiynol amgylcheddol gorau yn y DU. Mae’n gadeirydd Grŵp Polisi Cymru Cymdeithas Ecolegol Prydain ac mae’n ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlypdiroedd (WWT).
Mae Erin yn fyfyrwraig Lefel A yn astudio Drama ac Astudiaethau Theatr, Bioleg a Seicoleg.
Ar ôl bod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr yn y gorffennol, mae gan Erin brofiad o gyfrifoldebau arweinyddiaeth ac mae’n angerddol am gyfrannu’n gadarnhaol i’r rôl Llywodraethwr Myfyrwyr er budd dysgwyr a chymuned ehangach y coleg. Mae Erin yn eiriolwr dros gynhwysiant ac wrth adeiladu ymwybyddiaeth i sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at gefnogaeth a’r amgylchedd i ffynnu.
Y tu allan i’r coleg, mae Erin yn brysur yn cefnogi grŵp celfyddydau perfformio ac mae’n aelod o’r tîm pêl-fasged lleol. Mae’r ddau weithgaredd hyn yn adeiladu ar rinweddau a sgiliau Erin o ddatblygu cydweithrediad, gwaith tîm, cyfathrebu ac amldasgio.
Mae Southam yn astudio Lefel 3 Gwneuthirio a Weldio ac mae’n Lywodraethwr Myfyrwyr yng Ngholeg Cambria. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu ei sgiliau mewn diwydiant y mae’n angerddol amdano.
Ar ôl gwasanaethu fel Aelod o’r Cabinet Ieuenctid yn flaenorol, mae Southam yn gwerthfawrogi pwysigrwydd bod yn llais effeithiol a chyson i bobl ifanc. Mae ganddo brofiad a gwybodaeth o weithio ar brosiectau gwrth-fwlio, ymgysylltu ag ieuenctid a chodi arian ac mae wedi gweithio gyda gwahanol bobl a sefydliadau i sicrhau newid cadarnhaol. Yn wirfoddolwr brwd, mae Southam wedi cefnogi prosiectau Banc Bwyd.
Mae Southam yn awyddus i ddefnyddio ei lais fel Llywodraethwr Myfyrwyr i wneud cyfraniad ystyrlon i fywyd coleg ac i helpu i sicrhau bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u cynnwys.
Cofnodion Bwrdd y Llywodraethwyr
Blwyddyn Academaidd 2024/25
Am ragor o wybodaeth am waith Bwrdd Coleg Cambria, i ofyn am gopïau neu weld gwybodaeth am y Corff Llywodraethu (trwy apwyntiad), neu os hoffech mynegi diddordeb mewn bod yn Llywodraethwr, cysylltwch â Sian Clark, Swyddog Llywodraethu a Chlerc y Bwrdd drwy