main logo

Cyfrifeg

Play Video

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae Prentisiaeth yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o ddechrau yn y diwydiant cyfrifeg.

Mae Cyfrifwyr yn gyfrifol am agwedd ariannol busnesau o bob maint a dibynnir arnynt i ddarparu darlun manwl o’r cwmni.

Bydd prentisiaid yn y diwydiant hwn yn gweithio ar y cyd â thimau profiadol i ennill eu gwybodaeth yn ogystal â mynd ar ddiwrnodau astudio.

Mae angen i ddysgwyr sy’n cwblhau’r cymwysterau hyn gael sgiliau ffigurau da, sgiliau TG a gallu cyfathrebu’n glir.

Prentisiaethau sydd ar gael

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth cyfrifeg ar Lefel 2, 3 a 4.

Tystysgrif mewn Cyfrifeg – Lefel 2 – Llaneurgain

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol,  TGAU A-C mewn Mathemateg a Saesneg, Cyfrifeg

Hyd Arferol – 12 mis

Dull Astudio ac Asesu – Diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Diwrnod rhyddhau o’r gwaith i Ysgol Fusnes Cambria

Tystysgrif mewn Cyfrifeg – Lefel 2- Iâl

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol,  TGAU A-C mewn Mathemateg a Saesneg, Cyfrifeg

Hyd Arferol – 12 mis

Dull Astudio ac Asesu – Diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Diwrnod rhyddhau o’r gwaith i safle Iâl

Tystysgrif mewn Cyfrifeg – Lefel 3 – Iâl

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol,  TGAU A-C mewn Mathemateg a Saesneg

Hyd Arferol – 12 mis

Dull Astudio ac Asesu – Diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Diwrnod rhyddhau o’r gwaith i Ysgol Fusnes Cambria a Safle Iâl

Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg – Lefel 4 – Iâl

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol,  Tystysgrif Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg

Hyd Arferol – 12 mis

Dull Astudio ac Asesu – Diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Diwrnod rhyddhau o’r gwaith i Ysgol Fusnes Cambria a Safle Iâl

Darshi Godfrey

Darshi Godfrey

Wedi astudio – AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg Proffesiynol

Erbyn hyn –Cyfrifydd Cynorthwyol mewn practis cyfrifyddu

“Gwnes i astudio ar gyfer Prentisiaeth AAT oherwydd roeddwn i wedi cwblhau cymhwyster Safon Uwch mewn Cyfrifeg a dwi wedi bod â diddordeb mewn gweithio yn y sector cyllid ers erioed. 

“Gwnes i ddysgu am gadw llyfrau, Sage a meddalwedd taenlen a sut i gydbwyso datganiadau banc. Rydyn ni hefyd wedi ymdrin â chyfnodolion, rheoli credyd a datganiadau ariannol sy’n ddefnyddiol iawn yn fy swydd i.

“Mae’r cwrs yma wedi fy helpu i wella fy sgiliau cyfrifeg yn fawr iawn ac wedi ychwanegu gwerth i fy ngyrfa.

“Dwi eisiau diolch i fy ymarferydd dysgu yn y gwaith, Lynn Jones a fy nhiwtor Debbie Meredith am fy annog i drwy gydol fy astudiaeth i gwblhau’r arholiadau.”

Dangos Rhagor
Robyn Lawson

Robyn Lawson

Wedi astudio – Diploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg Broffesiynol  

Erbyn hyn –Gweinyddydd Cyfrifon

Gwnes i astudio’r tri lefel y Brentisiaeth AAT mewn Cyfrifeg yng Ngholeg Cambria, a’r un mwyaf diweddar oedd y Diploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg Broffesiynol. 

Gwnes i benderfynu astudio AAT ar ôl i mi ddechrau fy swydd gyntaf, lle fy rôl i oedd gweinyddydd swyddfa a chyfrifon. Roeddwn i’n mwyhau’r agweddau cyfrifeg yn fy rol ac roeddwn i eisiau gallu deall y gwaith ro’n i’n ei wneud yn well, a datblygu sgiliau newydd. 

Dwi wedi dysgu llawer iawn ar hyd y dair blynedd o astudio gan gynnwys sut i ysgrifennu cyfrifon, gwaith meddalwedd a sgiliau cyfrifyddu uwch.

Fe wnes i fwynhau’r cwrs hwn yn fawr, yn enwedig gan ei fod yn yr ystafell ddosbarth. Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o amgylchedd yr ystafell ddosbarth gyda dysgwyr o’r un anian, gan deimlo fy mod i’n gallu gofyn unrhyw gwestiynau yr oeddwn i eu hangen. Pe na bai rhywun yn deall pwnc yn iawn, byddai ein tiwtor yn ceisio dull gwahanol o’i esbonio, i’n helpu i ddeall pob uned yn llawn.

Os ydych chi’n mwynhau cyfrifeg ac eisiau datblygu eich sgiliau ac ennill cymhwyster ar ei ddiwedd, byddwn i’n argymell y cwrs hwn yn fawr.

Dangos rhagor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr rydym yn gweithio gyda nhw

Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw

McLintocks Logo
TUP Logo

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.