Gwnewch gais rŵan ar gyfer ein cyrsiau llawn amser a rhan-amser sy’n dechrau o fis Ionawr.
Rydym yn darparu ystod eang iawn o gyrsiau i’ch helpu i wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth i roi twf i’ch gyrfa neu ddarganfod diddordeb newydd. O harddwch i adeiladu mae gennym rywbeth at ddant pawb.
Rhesymau i ddechrau cwrs newydd…
Rydych chi eisiau astudio gradd er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair
Rydych chi eisiau uwchsgilio i symud eich gyrfa yn ei blaen gyda chwrs datblygu proffesiynol
Rydych chi eisiau dysgu rhywbeth newydd gyda chwrs rhan-amser
Er mwyn dechrau gyrfa newydd gyda Phrentisiaeth
Rydych chi awydd ddysgu Cymraeg gyda Cymraeg i Oedolion
Sgiliau i Oedolion
Mae ein tîm Sgiliau i Oedolion yn darparu cyrsiau ar ein safleoedd neu yn y gymuned i helpu oedolion i wella eu sgiliau Mathemateg, Saesneg a TG.
Cyrsiau Am Ddim
*Os ydych yn hŷn na 19 oed, yn byw yng Nghymru, os ydych mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na 30,596 y flwyddyn, neu os yw eich swydd mewn perygl, mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych i gael y cyfle i astudio cyrsiau penodol yn rhan-amser. Ewch i’n gwefan i ddarganfod rhagor neu i wirio eich cymhwysedd.
*yn amodol ar gymhwysedd
Llawn Amser
Pa Gyrsiau Sydd Ar Gael
Nid oes gennym unrhyw gyrsiau ar gael ar hyn o bryd.