Select Page

Marchnadoedd Nadolig 2021 Coleg Cambria

Coleg Cambria Iâl, Wrecsam, LL12 7AB: 1 – 3 Rhagfyr

Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy, Cei Connah, CH5 4BR: 8 – 10 Rhagfyr

Dyma’r adeg i fod yn llawen, felly ewch i ysbryd yr ŵyl a mwynhewch awyrgylch y Nadolig eleni ym Marchnadoedd Nadolig cyntaf erioed Coleg Cambria!

Darganfyddwch 40 o stondinau tymhorol a llu o faniau bwyd dros chwe diwrnod llawn hwyl yr ŵyl ym mis Rhagfyr ar safleoedd Coleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam. 

Byddwch chi’n siŵr o gael amser bendigedig. Felly dewch â’r teulu, bwytewch, siopwch a byddwch lawen yn y digwyddiad am ddim hwn sy’n dangos y gorau sydd gan ein cynhyrchwyr a’n busnesau lleol i’w gynnig.

Christmas Market Produce
Christmas Market Produce
Christmas Market Produce

Stondinau

Ble well i ddechrau eich siopa Nadolig 2021 nac yn ein marchnadoedd Nadolig Cambria?

Gyda dros o 40 o gwerthwyr yn cynnig amrywiaeth o anrhegion ac addurniadau Nadolig, dyma’r ffordd berffaith i ddod o hyd i anrheg unigryw ar gyfer y teulu, ffrindiau neu anwyliaid y Nadolig hwn.

Cymerwch seibiant o siopa a chymerwch drît o win brwd, neu fwyd blasus gan un o’n gwerthwyr, a fydd yn gweini cymysgedd o fwyd poeth, pitsa a llawer rhagor.

Rydyn ni’n awyddus i gefnogi’n cymunedau lleol a helpu i’w hadfer yn dilyn pandemig y Covid. Daw’r holl gyflenwyr a gwerthwyr ym Marchnadoedd Nadolig Cambria o’r ardal leol, a bydd y marchnadoedd yn rhoi llwyfan iddyn nhw arddangos a gwerthu eu cynhyrchion a’u gwasanaethau.

Rhestr o Werthwyr

Stone Circle Mead
Pen Y Lan Pork
The Body Shop
Get Jerky
Kingdom Recommends
Su Casa Cuisine
Ial Salon
Cave Valley Kitchens
Love Handbags North West
Frenchie Fancies
Dough Belissimo
Pheonix Vegan Street Food
Ial Resteraunt
Wild Moon Distillery
Tropic Skin Care
Lovage and Rosemary
Dough Belissimo
Omeda Crafts
Ial Flowers
Goch & Co
Little Shop of Words
ButterflyBlue Gifts
Jack Berry Foods

Adloniant

Bydd ymweliad arbennig gan Siôn Corn ar ein safle Iâl 02/12/21 rhwng 4pm a 8pm ac ar ein safle Glannau Dyfrdwy 09/12/21 rhwng 4pm a 8pm, yn barod i siarad gyda’r plant a gweld beth maen nhw ei eisiau’r Nadolig hwn a’u helpu i deimlo hwyl yr ŵyl. 

Byddwn ni hefyd yn croesawu The North Wales and Wirral Rock Choir, a fydd yn perfformio cymysgedd o garolau traddodiadol a hen ffefrynnau’r Nadolig i’ch helpu i deimlo hwyl yr ŵyl!

Manylion Digwyddiadau

Wrecsam

Mae Marchnadoedd Nadolig Cambria yn digwydd ar safle Coleg Cambria Iâl ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol.

  • 1 a 2 Rhagfyr 2021: 12pm tan 8pm 3
  • Rhagfyr 2021: 10am tan 2pm.

Cyfeiriad

Coleg Cambria Iâl, Wrecsam, LL12 7AB

    Mapiau Stondinau

    Gweld a Lawrlwytho

    Dewch o Hyd i Ni ar Google Maps

    Glannau Dyfrdwy

    Mae Marchnadoedd Nadolig Cambria yn digwydd ar safle Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol.

    • 8 a 9 Rhagfyr 2021: 12pm tan 8pm
    • 10 Rhagfyr 2021: 10am tan 2pm.

    Cyfeiriad

    Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy, Cei Connah, CH5 4BR

    Mapiau Stondinau

    Gweld a Lawrlwytho

    Dewch o Hyd i Ni ar Google Maps

    Amser tan y Digwyddiad Cyntaf!

    Day(s)

    :

    Hour(s)

    :

    Minute(s)

    :

    Second(s)

    Dewch o Hyd i Ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol