main logo
Mae eich dyfodol yn dechrau yma

Digwyddiadau Agored Hygyrch yng Ngholeg Cambria

Coleg 16-18

Gwahoddir pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch yng Nglannau Dyfrdwy, Chweched Glannau Dyfrdwy, Iâl, Chweched Iâl, Ffordd y Bers, Llysfasi a Llaneurgain ym mis Tachwedd eleni.

Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Byddwch yn gallu dysgu am ein cyrsiau , cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Cadwch Eich Lle

Cadwch eich lle yn y digwyddiad agored sydd o ddiddordeb i chi drwy ddewis y lleoliad(au) isod yn gyntaf.

Er mwyn gwneud y mwyaf o’r amser sydd ar gael, rydym yn argymell i chi gyrraedd erbyn 5.30pm.

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiadau hyn i’ch galluogi chi i fwynhau’r digwyddiad agored mewn amgylchedd cyfeillgar synhwyraidd heb heidiau mawr o bobl.

Siaradwch â'r tîm

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Cambria!

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

Anfonwch E-bost atom ni

Anfonwch e-bost atom ni

enquiries@cambria.ac.uk

Ynglŷn â’n Coleg

Sefydlwyd y coleg yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Rydym yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.

Ar draws ein chwe safle, rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau amser llawn a rhan amser gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â thros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.

Play Video
Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth ysbrydoledig o’r dyfodol yw ‘rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.’

Ein blaenoriaeth gyffredinol yw parhau i gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn ymestyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio a chyflawni i’w llawn botensial. Mae hyn yn hanfodol wrth i rôl Cambria ddod yn bwysicach byth i’n cymunedau a’n heconomi.

Ein Gwerthoedd

Dangos gonestrwydd ac uniondeb

Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi

Bod yn garedig a chefnogol

Gweithio gydag eraill

Teimlo'n gyfartal a chynhwysol

Bod yn gymuned

Bod yn rhagorol ac ysbrydoledig

Annog ac ysgogi

Bod yn frwdfrydig

Bod yn arloesol