
Cynhyrchodd grŵp o fyfyrwyr Celf a Dylunio Lefel 2 o Goleg Cambria Iâl ddetholiad o ddyluniadau Nadolig ar gyfer arddangosfa ffenestr wrth fynedfa’r farchnad ar Stryt Fawr Wrecsam.
Creodd pob un o 24 aelod y dosbarth – dan arweiniad y tiwtoriaid Rachel Holian a Catriona Harvey – eu stensiliau addurniadau Nadolig unigryw eu hunain, tra bo’r dysgwr Charley Titley wedi dylunio coeden wedi’i haddurno â’r geiriau ‘Nadolig Llawen Wrecsam’ arni hi.
“Gwnaeth y myfyrwyr waith gwych,” meddai Rachel.
“Roedden nhw’n falch o fod yn rhan o friff gweithio byw, ac yn falch o gael gweld eu dyluniadau wedi’u harddangos i bawb yn Wrecsam gael eu gweld.
“Roedd yr addurniadau i gyd yn wahanol ac yn edrych yn wych, fel y goeden a gafodd ei dylunio gan Charley.

“Rydyn ni’n gobeithio bod yr arddangosfa ffenestri yn dod â digon o Hwyl yr Ŵyl i’r dref a diolch i Dŷ Pawb a’r cyngor am eu cefnogaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Wrecsam dros Adfywio Economaidd:
“Mae’r arddangosfeydd yn edrych yn Nadoligaidd iawn ac rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr yn eu gwerthfawrogi yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n rhan o’r prosiect hwn.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau yng Ngholeg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.
Ewch i www.typawb.wales i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Dŷ Pawb.
