-
Arholiadau ac Asesiadau
Diweddariad Pwysig
Diweddarwyd ddiwethaf 08.01.21
Arholiadau ac Asesiadau
Yn dilyn y cyhoeddiad y gall colegau barhau ag arholiadau galwedigaethol wedi’u hamserlennu, mae’r coleg yn parhau gyda’i raglen o arholiadau wedi’u hamserlennu.
I bwy mae’r neges hon yn berthnasol?
Mae hyn ar gyfer POB Dysgwr a Phrentis sydd i fod i sefyll arholiadau neu asesiadau ffurfiol yn ystod y cyfnod pan nad ydi’r coleg yn dilyn trefniadau arferol. Pan fydd pethau’n newid, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi.
Gallwch wirio a yw’r neges hon yn berthnasol i chi, cliciwch yma i weld rhestr o arholiadau ac asesiadau sy’n rhedeg.
Gwahoddir myfyrwyr a phrentisiaid sydd wedi cael gwybod am y disgwyliad i gwblhau arholiad / asesiad ffurfiol, i fynychu fel y hysbyswyd yn flaenorol
Cyrraedd eich arholiad
Mae holl gludiant y coleg yn rhedeg yn unol â’r amserlenni trafnidiaeth arferol i gynorthwyo myfyrwyr i ddod i mewn.. Os ydych chi’n defnyddio cludiant coleg, mae’n ofynnol i chi wisgo mwgwd wyneb bob amser ac eistedd yn bell oddi wrth unrhyw fyfyrwyr eraill sy’n teithio ar yr un bws.
Wedi clywed gan y Coleg bod eich arholiad yn cael ei ganslo?
Rydym yn ymwybodol fod rhai myfyrwyr wedi derbyn cyfathrebiad gan y coleg yn dweud wrthynt fod eu harholiadau wedi’u canslo.
Ymddiheurwn am hyn a hoffem gadarnhau y dylech ddiystyru unrhyw ohebiaeth a gawsoch sy’n gysylltiedig ag arholiadau a dilyn y canllawiau a roddir yma.
Sicrhewch gydnabyddiaeth am eich gwaith caled ac ennill profiad a sgiliau arholiad
Gwnaeth y coleg y penderfyniad i gynnal arholiadau i roi cyfle i ddysgwyr sefyll arholiad y maen nhw wedi bod yn paratoi ar ei gyfer dros yr wythnosau diwethaf. Bydd sefyll yr arholiad hefyd yn rhoi profiad arholiad i chi a’r cyfle i arddangos y sgiliau neu’r wybodaeth rydych chi wedi’i dysgu.
Oes rhaid i mi fynychu’r arholiad?
Nid yw presenoldeb yn orfodol ac os na fyddwch yn mynychu yna ni fyddwch dan anfantais.
Ddim yn dda?
Os ydych chi’n sâl a / neu’n arddangos symptomau COFID neu os yw’n ofynnol i chi ynysu eich hun ar ddyddiad eich arholiad / asesiad, peidiwch â mynychu’r coleg, ond rhowch wybod i’ch tiwtor am y rheswm dros eich absenoldeb.
Yn teimlo’n bryderus ynghylch mynychu’ch arholiad?
Rydym yn deall y gallech fod yn teimlo’n bryderus ynghylch mynychu’ch arholiad yn yr hinsawdd sydd ohoni neu y gallech fod mewn cysylltiad agos ag anwylyd sy’n agored i niwed neu’n cysgodi ac ati.
Peidiwch ag anghofio, does dim rhaid i chi fynychu’r arholiad hwn os nad ydych chi’n teimlo’n gyffyrddus yn gwneud hynny.
Mesurau Diogelwch ar waith
Rydym yn hyderus bod gennym yr holl fesurau ataliol angenrheidiol ar waith i alluogi myfyrwyr i sefyll arholiadau yn ddiogel, a gofynnwn i bob myfyriwr sy’n mynychu ar y safleoedd i gydymffurfio â’r mesurau sydd ar waith. Mae’r mesurau hyn wedi’u hadolygu a’u haddasu yng ngolau’r straen newydd o’r feirws.
Gwisgo Mygydau Wyneb ar Safleoedd y Coleg
Bydd yn rhaid i chi wisgo mwgwd wyneb i fod ar safle coleg. Bydd hyn yn berthnasol y tu mewn a’r tu allan i’n hadeiladau.
Dylai dysgwyr sydd wedi’u heithrio rhag gwisgo mwgwd wyneb wisgo eu cortyn gwddf melyn er mwyn nodi hyn. Mae’r rhain ar gael trwy gysylltu â studentservices@cambria.ac.uk
Diolchwn i chi am eich cefnogaeth a’ch ymroddiad parhaus
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cefnogaeth barhaus yn ystod yr amser heriol a chyfnewidiol hwn.