main logo

Lletygarwch ac Arlwyo

Mae’r diwydiant gwasanaethau yn ffynnu, ac mae cyfleoedd gwaith di-ri i chi pan fydd gennych y cymwysterau cywir. Gall Coleg Cambria eu rhoi i chi, gyda’n tiwtoriaid sydd â phrofiad o’r diwydiant yn canolbwyntio ar wasanaethau cwsmeriaid, protocolau iechyd a diogelwch a datblygu eich sgiliau ymarferol proffesiynol. Byddwch yn dysgu sut i baratoi a chreu ystod eang o fwyd, o seigiau lleol clasurol i fwydydd wedi’u hysbrydoli’n rhyngwladol, cacennau, cynnyrch crwst a rhagor.

Bydd hyn i gyd yn cael ei wneud yn ein ceginau a’n bwyty o’r radd flaenaf ar safle Iâl, lle gallwch chi wir brofi’ch doniau a gwasanaethu gwesteion go iawn sy’n talu. Mae gennym ni gysylltiadau â chwmnïau lleol a fydd yn eich helpu i ddringo’r ysgol yrfa – y cyfan sydd ei angen arnoch yw angerdd am fwyd da a gwasanaeth serol.

Lefel 2
Prentisiaethau Sylfaen

Lefel 3
Prentisiaethau

Mae pob prentisiaeth yn cynnwys...
  • Asesiadau Cychwynnol a Diagnostig
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
  • Cymhwyso Rhif
  • Cyfathrebu

Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch ddechrau prentisiaeth, gallwch gael cyflogaeth eich hun neu gallwch chwilio trwy ein swyddi gwag, neu siarad â’n tîm ymroddedig, pa bynnag lwybr rydych chi’n penderfynu sy’n iawn i chi, rydym yma i’ch helpu chi i lwyddo.

Ydych chi'n barod i ddarganfod rhagor a dod o hyd i'ch prentisiaeth berffaith?

Ydych chi'n Gyflogwr ac eisiau darganfod rhagor am brentisiaethau?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Y Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored i Oedolion – Ffordd y Bers
06/06/2024

P’un a ydych chi am ddysgu rhywbeth newydd neu wella ei sgiliau, mae ein digwyddiadau’n ffordd berffaith o ddarganfod mwy am ddysgu yn Cambria.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Iâl
06/06/2024

P’un a ydych chi am ddysgu rhywbeth newydd neu wella eich sgiliau, mae ein digwyddiadau’n ffordd berffaith o ddarganfod rhagor am ddysgu yn Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost