
Gwnaeth tsintsila hynaf Coleg Cambria, Robert, ddathlu ei ben-blwydd yn 20 oed mewn steil yn ddiweddar.
Disgwyliad oes tsintsila ar gyfartaledd yw rhwng deg a pymtheg mlynedd. Fodd bynnag, mae Robert wedi mynd ymhellach, ac mae ar dir y byw yn ugain oed! Daeth Robert i’r coleg ym mlwyddyn gyntaf cyrsiau Gofal Anifeiliaid Llysfasi ym 1997 gyda’i chwaer a fu farw sawl mlynedd yn ôl.
Dathlodd Robert ei ben-blwydd yn Llysfasi gyda chacen gartref a saib haeddiannol.
Dywedodd Kath Roberts, Hyfforddwr/Arddangoswr Gofal Anifeiliaid yn Llysfasi, “Mae Robert yn boblogaidd iawn gyda’n staff a’n myfyrwyr yma yng Ngholeg Cambria Llysfasi.”
“Ar hyd y blynyddoedd, mae llawer o fyfyrwyr wedi gweithio efo Robert wrth ddysgu sgiliau mewn hwsmonaeth anifeiliaid.”
yn ôl