main logo

Iâl

Yale Site Page Hero

Croeso

Mae gan Iâl enw da ers oes ac mae’n gartref i lawer o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau. Ar ôl cael ailddatblygiad gwerth £20m yn ddiweddar, mae gan Iâl gyfleusterau addysgu arbenigol, labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd cyfrifiaduron a stiwdios celf.

Mae pob myfyriwr yn gallu cyrchu’r dechnoleg ddiweddaraf ac rydym yn annog iddynt ddefnyddio’r llyfrgell arddull prifysgol. Mae cyfleusterau diwydiannau creadigol Iâl ymhlith y gorau yn y rhanbarth.

Ymhlith y cyfleusterau mae Bwyty Iâl sy’n newydd sbon, Blodau Iâl a Salon Iâl a adnewyddwyd yn ddiweddar.

Taith Rithwir 360°

Os ydych chi erioed wedi bod eisiau gweld sut olwg sydd ar y safle cyn i chi ymweld neu ddechrau eich taith gyda ni, gallwch wneud hynny o gysur eich cartref eich hun. Os oes gennych benset Rhithrealiti, gallwch weld y daith mewn Rhithrealiti.

Northop 3D Tour

Ein Cyfleusterau

Edrychwch ar rai o’n datblygiadau newydd ac uchafbwyntiau’r safle!

Dewiswch un o’r darluniau i weld cynrychioliad 3D o’r cyfleuster hwnnw.

Os oes gennych glustffonau rhithrealiti, gallwch hefyd weld y cyfleusterau yn rhithrealiti.

A compute rgenerated image of the upcoming Yale spa

Canolfan Rhagoriaeth Gofal Iechyd a Therapïau

* Yn dod yn fuan 2024 *

Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Iâl

Gweld ein safleoedd eraill

Edrychwch ar ein safleoedd eraill drwy glicio’r botwm isod!

Site website montage

Ble ydym ni

Iâl Coleg Cambria

Ffordd Parc y Gelli

Wrecsam

LL12 7AB

Ffôn

0300 30 30 007

E-bost