Home > Oedolion > Gweld Pob Maes Pwnc > Llwybr Saesneg a Mathemateg > Saesneg a Mathemateg
Saesneg a Mathemateg
Gwella eich Saesneg a Mathemateg
TGAU Saesneg a Mathemateg
Paratoi ar gyfer TGAU gyda ni…
Eisiau gwella eich sgiliau mewn llythrennedd neu rifedd? Eisiau gwella eich rhagolygon swydd neu ennill cymhwyster i symud ymlaen i gwrs astudio pellach? Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Sgiliau Hanfodol Cymru achrededig AM DDIM* wedi’u lleoli mewn lleoliadau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint ac ar safleoedd Cambria.
Mae ein cyrsiau yn caniatáu i chi weithio ar eich cyflymder eich hun mewn amgylchedd cyfeillgar, hamddenol. Mae opsiynau ar-lein ar gael hefyd.
Pam astudio gyda ni....
MAGU HYDER A LLWYDDO
ENNILL CYMWYSTERAU CYDNABYDDEDIG AM DDIM*
*Yn amodol ar gymhwysedd
ASTUDIO GYDAG ERAILL AR YR UN LEFEL
CYMRYD EICH CAMAU CYNTAF TUAG AT DDYCHWELYD I DDYSGU
DATBLYGU SGILIAU SY'N EICH HELPU I SYMUD YMLAEN
Paratoi i symud ymlaen i astudio PELLACH neu Gyflogaeth
Y cyrsiau Paratoi ar gyfer TGAU sydd ar gael
Gwybodaeth am y cyrsiau:
Mae’r cwrs Gwella Eich Saesneg yn addas ar gyfer unrhyw un sydd angen gweithio ar eu sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando, o’r pethau sylfaenol hyd at lefel TGAU.
Gall y dosbarthiadau eich helpu i wella eich rhagolygon swydd, eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach, eich helpu i gefnogi plant gyda’u gwaith cartref a datblygu eich hyder gyda’ch sgiliau Saesneg.
Yn y dosbarthiadau byddwch chi’n gweithio ar eich lefel eich hunain ar y pynciau sydd eu hangen arnoch. Gall y pynciau gynnwys:
- atalnodi
- gramadeg
- sillafu
- darllen er gwybodaeth
- ysgrifennu gwahanol fathau o ddogfennau
- cymryd rhan mewn trafodaethau
- pynciau eraill yn ôl yr angen.
Bydd eich tiwtor yn cytuno ar eich cynllun dysgu unigol eich hun gyda chi.
Pan fyddwch yn barod gallwch gymryd cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu ar y lefel briodol o Fynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3, Lefel 1 neu Lefel 2. Efallai y byddwch wedyn yn gallu dechrau gweithio tuag at y lefel nesaf.
Caiff y dosbarthiadau eu cynnig mewn llawer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys prif safleoedd y coleg, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd ac anghysbell. Gallwch ymuno â’r dosbarthiadau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.
Hyd y cwrs: 2 awr yr wythnos – Dosbarthiadau yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar-lein ar gael.
Cost: AM DDIM*
Oes gennych chi ddiddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio yn ôl am sgwrs.
*Yn amodol ar Gymhwysedd
Gwybodaeth am y cyrsiau:
Mae’r cwrs Gwella Eich Mathemateg yn addas ar gyfer unrhyw un sydd angen gweithio ar eu sgiliau rhifedd, o’r pethau sylfaenol hyd at lefel TGAU.
Gall y dosbarthiadau eich helpu i wella eich rhagolygon gwaith, eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach, eich helpu i gefnogi plant gyda’u gwaith cartref a datblygu eich hyder gyda’ch sgiliau mathemateg.
Yn y dosbarthiadau byddwch yn gweithio ar eich lefel eich hun ar y pynciau sydd eu hangen arnoch. Gall y pynciau gynnwys:
- adio a thynnu
- lluosi a rhannu
- ffracsiynau, canrannau a degolion
- cymhareb a chyfrannedd
- mesur metrig
- perimedr, arwynebedd a chyfaint
- graffiau a siartiau
- arian
- pynciau eraill yn ôl yr angen.
Bydd eich tiwtor yn cytuno ar eich cynllun dysgu unigol eich hun gyda chi. Pan fyddwch yn barod gallwch gymryd cymhwyster Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru ar y lefel briodol o Fynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3, Lefel 1 neu Lefel 2. Efallai y gallwch wedyn ddechrau gweithio tuag at y lefel nesaf.
Caiff y dosbarthiadau eu cynnig mewn llawer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys prif safleoedd y coleg, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd ac anghysbell. Gallwch ymuno â’r dosbarthiadau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.
Hyd y cwrs: 2 awr yr wythnos – Dosbarthiadau yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar-lein ar gael.
Cost: AM DDIM*
Oes gennych chi ddiddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio yn ôl am sgwrs.
*Yn amodol ar Gymhwysedd
Sylwch y bydd angen mynd i sesiwn wyneb yn wyneb i ddechrau i wneud yr asesiad cychwynnol i nodi lefel bresennol eich sgiliau ac unwaith y byddwch yn barod i wneud y cymhwyster Sgiliau Hanfodol gwirioneddol bydd angen i chi hefyd ddod i’r coleg i gwblhau hyn.
Cysylltwch â ni a byddwn yn eich ffonio'n ôl
Beth am glywed gan rai o'n cyn-fyfyrwyr
Sian Plant
‘Since Level 1 in Nail Services, my tutor has always tried to encourage me to take part in WorldSkills UK. At Level 3 I found the courage to take part and compete. All the training leading up to the competition has helped me improve my skills. Taking part in WorldSkills UK was such a good experience.’
Advice for anyone who wants to take part?
‘My advice for anyone who wants to take part is to go for it but don’t put pressure on yourself and allow yourself time to train. It is such an amazing experience to make memories too.’
The best bit about WorldSkills UK
‘Seeing all the other competitors’ work, all the different things going on, improving my skills and producing the work that I did. Also receiving my medal!’
GEORGE SEARS
‘Competing at WorldSkills UK was a really interesting few days and a great experience. It has opened up a lot of avenues for me in the future and I’m really happy that I went out of my comfort zone to take part and came home with the win!’
Advice for anyone who wants to take part?
‘It’s definitely worthwhile taking part, even if you’re nervous about doing it. You will meet great people and get the support you need from the college. It’s an amazing opportunity to help push start your career and gain experience needed in the workplace.’
The best bit about WorldSkills UK
‘The opportunity to take part in a national final was a great experience, but to find out I came first was an amazing feeling!’
Dewch i gael TGAU mewn Saesneg a/neu Fathemateg a dechrau eich dyfodol….
Mae TGAU mewn Saesneg a/neu Fathemateg yn agor drysau i gyfleoedd newydd ar gyfer eich dyfodol. P’un ai bod hynny’n waith hyrwyddo, gwella rhagolygon gyrfa, lle mewn prifysgol neu sicrhau prentisiaeth.
Yng Ngholeg Cambria mae gennym enw da profedig ar gyfer helpu myfyrwyr o bob oed i gyflawni graddau TGAU gwell a fydd yn eu galluogi i gymryd cam nesaf eu taith yn hyderus.
Rydym yn cynnig cyrsiau naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae’n hanfodol eich bod yn dod yn rheolaidd.
Os rydych yn ansicr o’ch lefel Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd peidiwch â phoeni! Yn ystod eich sesiwn gyntaf gyda ni, bydd ein tîm addysgu profiadol a chefnogol yn sicrhau eich bod chi ar y lefel astudio gywir.
Pam astudio gyda ni....
ENNILL CYMWYSTERAU CYDNABYDDEDIG
DATBLYGU SGILIAU SY'N EICH HELPU I SYMUD YMLAEN
ASTUDIO GYDAG ERAILL AR YR UN LEFEL
CYMRYD EICH CAMAU CYNTAF TUAG AT DDYCHWELYD I DDYSGU
MAGU HYDER A LLWYDDO
CAEL EICH CYNORTHWYO AR BOB CAM
Beth am glywed gan rai o'n cyn-fyfyrwyr
Sian Plant
‘Ers dilyn cwrs Lefel 1 mewn Gwasanaethau Ewinedd, mae fy nhiwtor bob amser wedi ceisio fy annog i gymryd rhan yn WorldSkills UK. Ar Lefel 3 roeddwn yn ddigon dewr i gymryd rhan a chystadlu. Mae’r holl hyfforddiant yn arwain at y gystadleuaeth wedi fy helpu i wella fy sgiliau. Roedd cymryd rhan yn WorldSkills UK yn brofiad mor dda.’
Oes gennych chi gyngor i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Fy nghyngor i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan yw mynd amdani ond peidiwch â rhoi pwysau arnoch chi’ch hun a chaniatáu amser i chi’ch hun hyfforddi. Mae’n brofiad mor anhygoel i greu atgofion hefyd.’
Y darn gorau am WorldSkills UK
‘Gweld gwaith yr holl gystadleuwyr eraill, yr holl bethau gwahanol sy’n digwydd, gwella fy sgiliau a chynhyrchu’r gwaith a wnes i. Cael fy medal hefyd!’
GEORGE SEARS
‘Roedd cystadlu yn WorldSkills UK yn ddiwrnod diddorol iawn ac yn brofiad gwych. Mae wedi agor llawer o lwybrau i mi yn y dyfodol ac rwy’n falch iawn fy mod wedi mentro i gymryd rhan a dod adref gyda’r fuddugoliaeth!’
Cyngor i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Mae’n bendant yn werth cymryd rhan, hyd yn oed os ydych chi’n nerfus am ei wneud. Byddwch yn cyfarfod â phobl wych ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch gan y coleg. Mae’n gyfle gwych i helpu i wthio eich gyrfa a chael y profiad sydd ei angen yn y gweithle.’
Y darn gorau am WorldSkills UK
‘Roedd y cyfle i gymryd rhan mewn rownd derfynol genedlaethol yn brofiad gwych, ond roedd cael gwybod mod i wedi cael y wobr gyntaf yn deimlad anhygoel!’
Beth am glywed gan rai o'n cyn-fyfyrwyr
Hollie Haines
TGAU Mathemateg
“Cyn dechrau fy nghwrs TGAU Mathemateg roeddwn i wedi colli fy swydd oherwydd y cyfnod clo.
O ganlyniad i gael D mewn TGAU mathemateg o’r ysgol, swyddi a oedd yn talu’n isel, rhan amser yn unig roeddwn i’n gallu ymgeisio ar eu cyfer. Doedd y swyddi yma ddim yn addas gan fy mod i’n rhiant sengl i ddau o blant.
I fod yn hollol onest, roeddwn i’n nerfus am ddychwelyd yn ôl i addysg, ond roeddwn i’n gwybod bod angen i mi fod yn ddewr a chymryd y cam cyntaf.
Gwnes i gysylltu â Cambria ac esbonio, oherwydd anawsterau a’r ffaith fy mod i ddim yn hoffi’r ysgol yn gyffredinol, doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i wella ar fy ngradd D mewn TGAU Mathemateg.
Gwnes i esbonio hefyd mai fy nod oedd symud ymlaen i’r Brifysgol ac yn y pen draw dod yn Nyrs Iechyd Meddwl cwbl gymwys.
Roedd y staff yn y Coleg yn wych ac yn barod i helpu. Gwnaethant nhw egluro y byddai angen i mi gael gradd C mewn Mathemateg yn fwy na thebyg yn ogystal â bod wedi cwblhau cyrsiau Mynediad i Addysg uwch – Gofal Iechyd er mwyn llwyddo i gael lle ar fy nghwrs delfrydol yn y Brifysgol.
Doeddwn i ddim yn meddwl y buaswn i’n gallu llwyddo, ond gwnaeth y coleg fy helpu i gael ffydd ynof fi fy hun a fy annog i ymuno â’r cyrsiau.
Blwyddyn yn ddiweddarach, gwnes i lwyddo i gael gradd B mewn TGAU Mathemateg yn ogystal â chymhwyster Mynediad i Addysg Uwch – Gofal Iechyd! Doeddwn i methu coelio’r peth! Roeddwn i wrth fy modd a dwi’n diolch yn fawr iawn i’r tîm addysgu.
Doedd y profiad ddim yn hawdd ond gwnes i wneud fy ngorau a mynd i bob dosbarth – a gwnes i lwyddo!
Buaswn i ddim wedi gallu llwyddo heb gymorth y tiwtoriaid, roedden nhw mor amyneddgar gyda mi ac yn gwneud i mi deimlo y gallwn i bob amser ofyn cymaint o gwestiynau ag oedd angen i mi nes i mi ddeall.
Heddiw, dwi’n astudoo ar gyfer gradd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caer.
Mae cymryd y cam cyntaf gyda Choleg Cambria wedi newid fy mywyd a buaswn i’n argymell i unrhyw un sy’n poeni am ddod yn ôl i addysg i gymryd anadl ddofn, bod yn ddewr a mynd amdani…beth sydd gennych chi i golli!”