main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mae Dan Jones a Tom Jenkins, sydd ym mlwyddyn olaf eu cwrs Lefel 3 Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon yng Ngholeg Cambria Iâl, wedi arwyddo ar gyfer CPD Wrecsam.

Mae’r Dreigiau Cochion yn gwella o hyd, gan anelu i ddyrchafu’r Ail Gynghrair o dan stiwardiaeth y cyd-gadeiryddion a’r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Felly mae’n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o gynlluniau’r rheolwr Phil Parkinson.

Mae Tom a Dan bellach dan gontract tan ddiwedd tymor 2022/23 ac maen nhw’n gobeithio chwarae rhan yn llwyddiant parhaus y tîm.

Mae Tom, sy’n 18 oed, o Bromborough, yn ganolwr ymosodol ac yn gapten y Tîm Iau. Mae wedi bod yn rhan o’r clwb ers dros ddegawd.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn wych cael hyfforddi a dysgu gan y chwaraewyr mwy profiadol, a chael cymryd rhan ar lefel tîm wrth gefn mewn gemau yn erbyn rhai o’r timau gorau.

“Mae’n gystadleuaeth dda, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan ohoni dros y flwyddyn nesaf a datblygu ymhellach.”

Mae Dan, sy’n 18 oed, yn saethwr ac yn gefnogwr taer i’w glwb cartref, a dywedodd: “Dwi a fy nheulu wedi bod yn gefnogwyr brwd erioed, felly mae’n gwireddu breuddwyd i ni.

“Hoffem ni’n dau ddiolch i’r coleg am eu cymorth. Mae’r cwrs wedi bod yn ddiddorol dros ben ac mae’n ffordd wych i gyflawni’r cymhwyster ar gyfer y dyfodol.

“Ein nod yw parhau i weithio’n galed a chael dylanwad wrth i’r tîm barhau i geisio am ddyrchafiad – mae’n gyfnod gwych i arwyddo contract.”

Dywedodd y darlithydd Aled Ellis bod y ddau wedi cydbwyso eu haddysg a’u hyfforddiant yn llwyddiannus er gwaethaf heriau’r pandemig.

“Rydyn ni wrth ein boddau dros Tom a Dan, maen nhw wedi gweithio’n galed ar y cae ac oddi arno ac yn haeddu mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwych ym maes chwaraeon. Rydyn ni’n dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”

Fe waeth Phil Parkinson, Rheolwr CPD Wrecsam longyfarch y chwaraewyr ar eu contractau, gan ddweud: “Dwi’n meddwl ei fod yn arwydd gwych gan y cyd-gadeiryddion eu bod am adeiladu’r strwythur ieuenctid wrth symud ymlaen.

“Mae llawer yn mynd ymlaen yn y Clwb, ym mhob adran, ac mae hyn yn profi i’r chwaraewyr iau nad ydyn nhw wedi cael eu gadael ar ôl. Mae cynlluniau i wella’r adran iau ac rydyn ni’n gweithio tuag at hynny, ond cadw’r chwaraewyr gorau sydd bwysicaf.

“Rŵan bod gan y chwaraewyr ifanc yma gontractau proffesiynol, rhaid eu llongyfarch nhw – mae llawer o bêl-droedwyr ar bob lefel grŵp oedran yn mynd ati i ddod yn bêl-droedwyr proffesiynol, a dim ond canran fach iawn sy’n cael contractau proffesiynol.

“Mae hynny’n gyflawniad yn ei hun, ond dyma’r cam cyntaf ar yr ysgol a rŵan mae’r gwaith caled yn dechrau go iawn. Dyma’r cyfle i fynd amdani, i wthio eu ffordd i mewn i’n meddwl ac i’r tîm cyntaf.”

I gael rhagor o wybodaeth am CPD Wrecsam, ewch i www.wrexhamafc.co.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost