main logo

PEIRIANNEG, GWEITHGYNHYRCHU A CHYNNAL A CHADW

Mae Peirianneg y tu ôl i lawer rhagor o bethau na’r disgwyl. Mae’n chwarae rhan enfawr yn y cynnyrch rydym yn eu defnyddio bob dydd a’r amgylcheddau rydym yn byw ynddo. Mae’n gyfle gwych i ddechrau arni yn y diwydiant cyffrous hwn, ac yng Ngholeg Cambria byddwch yn dysgu yn y cyfleusterau hyfforddi mwyaf llwyddiannus yn y DU, sy’n arwain y sector; ein Canolfan Ragoriaeth Beirianneg a Chanolfan Dechnoleg Beirianneg.

Gallwch chi ddysgu amrywiaeth o dechnegau mecanyddol a thrydanol gan gynnwys peirianneg awyrennau, cynnal a chadw trydanol, CAD, peirianneg mecanyddol, electronig a gweithgynhyrchu. Nid yn unig hynny, mae gennym ni gysylltiadau cadarn gyda nifer o fusnesau i’ch dechrau chi ar eich llwybr gyrfa beirianneg.

Cyfleusterau Peirianneg, Gwneuthuro a Chynnal a Chadw

Canolfan Technoleg Peirianneg

Gweithdy Peirianneg

Joe Williams IMG_0498

Joe Williams

Cwrs – Lefel 2 mewn Peirianneg Uwch

Erbyn Hyn – Brentis Ffitiwr Cydosodiadau yn Magellan Aerospace

Penderfynais astudio lefel 2 mewn Peirianneg Uwch gan y byddai’r unedau a’r sgiliau rydych chi’n eu hastudio ar y cwrs yn rhoi gwell cyfle i mi gael prentisiaeth.

Ers gorffen y cwrs fe wnes i gais llwyddiannus am raglen Brentisiaeth Magellan Aerospace. Dwi’n ei fwynhau’n fawr ac roedd y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgais wrth astudio yng Ngholeg Cambria yn amhrisiadwy ac yn help mawr i mi gyrraedd lle’r ydw i rŵan.

Dangos Rhagor
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Studied – A Level English, Drama, Maths and French

Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC 

“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham! 

“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”

Dangos Rhagor
Play Video
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost