main logo

Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol

A side shot of three Esports students playing on gaming PC's with colourful equipment surrounding them

Mae ein cyrsiau Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol a Digwyddiadau Byw wedi’u pweru gan greadigrwydd ac arloesedd yn eich galluogi chi i archwilio i’r agweddau ymarferol a damcaniaethol mewn diwydiannau cyfryngau cyfoes gan gynnwys; ffilm, golygu, hysbysebu, newyddiaduraeth, animeiddio, ffotograffiaeth, dylunio gemau, datblygu apiau a darlledu ar y radio.

Byddwn yn agor y drysau i ystod o yrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth a’r cyfryngau. Byddwch yn barod i ddechrau gyrfa gyffrous, ar gyflymder uchel gyda phortffolio dynamig a phroffesiynol y byddwch yn ei adeiladu yn ystod eich cyfnod gyda ni.

Created with RNI Films app. Preset 'None'

Ryan Evans

Astudiodd – Lefel 3 mewn Cyfryngau

Erbyn hyn – Rheolwr Cynnwys yn Netflix

“Un diwrnod efallai mai’r bobl sy’n eistedd wrth eich ymyl fydd eich cydweithwyr…dyma’r cyngor y cefais i pan oeddwn i yn y coleg a dwi heb ei anghofio. 

Mae’r coleg wedi fy addysgu i weithio’n galed, i fod yn garedig, i fwynhau, a dwi’n cofio’r cyfnod yn glir. Cefais llawer iawn o brofiad ymarferol ar draws ystod o brosiectau ac roeddwn i’n gallu llunio llwybr gyrfa oedd yn gweithio i mi, boed yn dod yn olygydd neu gyfarwyddwr neu un o’r amrywiaeth o swyddi eraill sydd ar gael. Gwnes i adael y coleg yn barod i wynebu disgwyliadau’r diwydiant a gyda’r wybodaeth a fydd yn fy helpu i lwyddo. 

“Ers gadael coleg es i ymlaen i astudio ffilmiau ddogfen, yna cefais swydd fel cynorthwyydd golygu er mwyn ennill profiad ym maes teledu. Yna es i ymlaen i weithio fel Cynghorydd Digidol i Ysgrifennydd Cartref y Llywodraeth a oedd yn ddiddorol iawn. Erbyn hyn dwi’n gweithio yn fy swydd ddelfrydol yn Netflix yn gweithio fel Rheolwr Llun a Sain, dwi’’n arwain ar greu asedau cyhoeddusrwydd ar gyfer holl gyfresi a ffilmiau’r DU/Israel, lle rwy’n cael byw a bod ym myd adloniant… sy’n freuddwyd. 

“Gweithiwch yn galed i gael y sgiliau ac mi fyddwch chi’n barod amdani.”

Dangos Mwy
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Studied – A Level English, Drama, Maths and French

Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC 

“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham! 

“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”

Show more
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost