• Mae prosiectau carbon isel wedi cael sêl bendith ar ôl sicrhau mwy na £500,000 mewn cymorth grant

Bydd y tri chynllun wedi’u lleoli yng Ngholeg Cambria Llysfasi ac yn arloesi technoleg newydd gyda’r nod o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y sector amaethyddiaeth.

Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru trwy ei Her Arloesi Ymchwil Busnes System Gyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WBRID), gyda chefnogaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y prosiectau yw:

  • Cydweithrediad rhwng M-SParc ar Ynys Môn, y coleg, a busnesau i archwilio’r potensial i ddefnddio dronau i nodi materion ar y tir fel tyfiant chwyn. Mae ail gam y cynllun yn cynnwys ymchwil i sut y gallai dronau gyfathrebu â pheiriant crwydro ar lawr gwlad i dargedu materion o bell, sy’n gymhwysiad cysyniad deuol.
  • Mae Promar International, sydd wedi’i leoli yn Swydd Gaer, yn datblygu adnodd ôl troed carbon dwyieithog ar gyfer ffermwyr yng Ngogledd Cymru, lle gallant fynd ar-lein a mewnbynnu gwybodaeth am y dirwedd, systemau cynhyrchu cig a llaeth cyfredol, y potensial i blannu coed a mwy. Bydd eu hôl troed carbon yn cael ei gyfrif, a rhoddir canlyniadau, a fydd yn ei dro yn annog arfer gorau ac yn cael ei ddefnyddio ar sail ranbarthol i gefnogi’r diwydiant.
  • Mae BioFactory Energy yn datblygu system Treuliad Anaerobig modiwlaidd cost isel ar gyfer ffermydd llaeth bach-canolig yng Nghymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o reoli slyri. Disgwylir i brototeip fod ar y safle yn y flwyddyn newydd a fydd yn cynhyrchu ynni i’r fferm ac yn gwella ansawdd slyri ar gyfer ei chwalu.

Mae arddangoswyr neu ‘heriau’ Byw’n Doeth Llywodraeth Cymru WBRID yn cymhwyso egwyddorion profedig cynlluniau Menter Ymchwil Busnesau Bach. Bydd y rhain yn rhedeg mewn sawl rhanbarth yng Nghymru tan ddiwedd y Gwanwyn gyda buddion gan gynnwys llai o allyriadau carbon, arbedion ynni a chefnogaeth economaidd busnes gyda phrofi technoleg, cynhyrchion, systemau a phrosesau newydd.

Yn ddiweddar, daeth y Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd Lee Waters i ymweld â Llysfasi i weld drosto’i hun yr ystod o dechnolegau blaenllaw a datrysiadau arloesol sy’n cael eu datblygu.

Meddai: “Mae’n rhaid i ni i gyd addasu’n gyflym i’r her o ddeall beth mae cyflawni allyriadau Sero Net yn ei olygu ar gyfer y ffordd rydyn ni’n mynd ati i wneud pethau. 

“Mae’r gwaith presennol sy’n cael ei wneud yn Llysfasi yn dangos y gall y camau y mae’n rhaid i ni eu cymryd i fynd i’r afael â charbon arwain at fuddion llawer ehangach hefyd. Rwy’n falch bod ein menter Byw’n Glyfar yn treialu ffyrdd newydd o wneud pethau y gallwn eu defnyddio ledled Cymru.”

Bydd y prosiectau Herio yn darparu mewnbwn sylweddol i’r Ganolfan Fferm Sero Net yn Llysfasi, canolfan ragoriaeth a fydd yn rhan o raglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth y Bwrdd Uchelgais. 

Dywed Rheolwr y Prosiect George Fisher fod cynnydd ar y tri chynllun yn nodi amser cyffrous i amaethyddiaeth yng Ngogledd Cymru; mae’n credu bod awydd gwirioneddol am addysg a thwf ymhlith y gymuned ffermio.

Mae’r diwydiant yn ganolog i Ogledd Cymru, gan gyflogi 7% o’r gweithlu a chyfrannu mwy na £370 miliwn at yr economi bob blwyddyn.

“Rydyn ni am fynd â ffermwyr ar y siwrnai hon gyda ni, wrth i ni geisio croesawu datblygiadau mewn technoleg i ddod yn fwy cynaliadwy fel sector,” meddai.

“Bydd y syniadau arloesol hyn yn chwarae rhan fawr yn hynny – rwy’n falch iawn o’u gweld yn symud ymlaen ac yn falch eu bod wedi derbyn cefnogaeth mor sylweddol gan WBRID. Mae’n ymrwymiad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cael effaith gadarnhaol am flynyddoedd i ddod. ”

Yn dilyn y cam hwn, mae George yn gobeithio y bydd y tri phrosiect mewn sefyllfa i symud ymlaen ar sail fasnachol ac yn cael eu defnyddio gan dirfeddianwyr a ffermwyr wrth iddynt geisio lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a mabwysiadu dulliau amaeth manwl.

Dywed Lois Shaw, Swyddog Cymorth Busnes M-SParc, y bydd cydweithredu rhwng y sefydliadau dan sylw yn gadarnhaol iawn i’r ardal, gan ychwanegu: “Mae’n wych gweld busnesau o’r rhanbarth yn elwa o’r sector amaeth-dechnoleg sy’n dod i’r amlwg.

“Rydyn ni wedi gallu sicrhau cydweithrediad rhwng dau gwmni ar Ynys Môn i yrru’r prosiect hwn yn ei flaen ac rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at y potensial i fasnacheiddio’r prosiect yn 2022.”

Roedd Jon Blake, Prif Swyddog Masnachol BioFactory, yn cytuno, a dywedodd: “Mae’r cydweithrediad â Choleg Cambria Llysfasi wedi bod yn allweddol wrth alluogi datblygu ein technoleg micro-AD (Treuliad Anaerobig), sydd ei angen yn fawr yn y sector ac a fydd yn galluogi mwy o ffermwyr Cymru i gael mynediad at fuddion OC yn yr ymgyrch am ffermio sero net.”

Dywedodd Tom Gill, Pennaeth Cynaliadwyedd Promar International, eu bod hwythau hefyd yn gyffrous gyda’r gobaith o arwain chwyldro yn y ffordd y mae amaethyddiaeth yn gweithredu yn y dyfodol.

“Mae Promar yn falch o barhau i gefnogi Coleg Cambria Llysfasi i ddyfeisio a gweithredu ei uchelgeisiau sero net,” meddai.

“I wneud hyn, bydd Promar yn cefnogi partneriaid y prosiect i ddeall dewisiadau a fydd yn cyfrannu at gynnal perfformiad cynhyrchiant fferm wrth nodi camau lleihau hinsawdd a fydd yn cael eu gweithredu dros y ddwy, pump a’r deng mlynedd nesaf.

“Yn ogystal â hynny, bydd yr offer i wneud hyn ar gael i bob ffermwr da byw ledled Gogledd Cymru (ac yn ehangach na hynny) gyda chefnogaeth grŵp sy’n cynrychioli’r diwydiant.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cambria.ac.uk a www.northwaleseab.co.uk.

yn ôl