
Roedd John ‘Chippy’ Lloyd, Swyddog Hyfforddiant Technegol yng Ngholeg Cambria, wedi gosod targed o £500 iddo’i hun, ac mi gurodd y garreg filltir honno yn ystod y cyngerdd dwy awr.
Gan chwarae ei gitâr acwstig ac wedi amgylchynu ei hun gyda lluniau’r enfys a baentiwyd gan ei ddau blentyn, canodd y dyn 38 oed ganeuon poblogaidd y sêr drwy’r degawdau, gan gynnwys The Beatles, Bob Marley, Elvis Presley, Pulp ac Ocean Colour Scene.
Cafodd y gig ei sgrinio ar dudalen Facebook Sefydliad Lles Glowyr Llai ac mae dros 9,500 wedi ei wylio.
Mae John bellach yn bwriadu cynnal cyngerdd arall ar gyfer yr un achos – sef prosiect i greu gardd i gleifion a theuluoedd sy’n ymweld â nhw yn uned gofal dwys Ysbyty Wrecsam Maelor (ICU) – yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn amodol ar reolau pellhau cymdeithasol.
“Roeddwn i wedi gobeithio y bydden yn cael rhywfaint yn dangos diddordeb ac yn codi swm teilwng o arian ar gyfer yr apêl, ond nid oeddwn yn disgwyl ymateb mor gadarnhaol – mae’n wych,” dywedodd John, sy’n byw yn Borras, Wrecsam, gyda’i wraig Lyndsey a’i ferched Chloe, chwech oed, a Charlotte pedair oed.
“Rydw i wedi bod yn perfformio yn y Sefydliad ac yn lleol ers dros ddegawd bellach ac rydw i wedi methu â gallu mynd allan i gigio oherwydd y broses cyfyngiadau symud Coronafeirws.
“Roedd yn wych gallu chwarae ychydig o ganeuon a helpu i wneud gwahaniaeth i’r ysbyty, felly diolch i bawb a wnaeth fy nghefnogi i ar y noson.”
Mae gan John, sy’n asesu ac yn arwain prentisiaid Cambria yn ffatri gwneud adenydd Airbus ym Mrychdyn, brosiect cerddorol arall ar y gweill.
Cyn i’r pandemig gydio, roedd o a grŵp o ffrindiau – gan gynnwys y gitarydd Jim, nyrs yn Ysbyty Maelor, Wrecsam – ar fin lansio band newydd, The BrightLights.
“Jim soniodd am ardd yr Uned Gofal Dwys. Felly pan ofynnodd Sefydliad Lles y Glowyr a fyddwn i’n cynnal gig, fe wnaethon ni benderfynu y byddai’n syniad ei ddefnyddio i godi arian,” dywedodd John, sy’n chwarae criced ar gyfer y lleoliad poblogaidd.
“Rydw i mor falch ein bod ni wedi cynnal y gig, a gobeithio y bydd pobl yn parhau i addo arian a gallwn ni helpu’r achos anhygoel hwn.”
I wylio’r perfformiad eto ar Facebook, ewch i www.facebook.com/llayminers.welfare.9
I roi arian i apêl gardd yr Uned Gofal Dwys, ewch i www.justgiving.com/crowdfunding/chippys-live-gig