Ydych chi’n ystyried astudio un o bynciau’r tir yn Llysfasi ym Medi 2021?
Dyma’r hyn y gallwch ei astudio yn Llysfasi:
- Amaethyddiaeth – arbenigo mewn sectorau Llaeth, Cig Eidion a Defaid
- Peirianneg Amaethyddol – gan gynnwys prentisiaethau AGCO a Kubota
- Rheolaeth a Gofal Anifeiliaid, Nyrsio Anifeiliaid a Thwtio Cŵn
- Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad – gan gynnwys Diploma Tilhill
Mae gennym ni 3 rhith ddigwyddiad lle byddwch yn cael yr holl wybodaeth am y cyrsiau o gysur eich cartref:
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb fynychu ond bydd yn addas i ddisgyblion ysgol blynyddoedd 9-11, rhieni, ymgynghorwyr gyrfa a myfyrwyr aeddfed.
Dydd Gwener 29 Ionawr 2021
9am – 10am neu 5.30 – 6.30pm
Dydd Sadwrn 30 Ionawr 2021
10am – 12pm
Cewch gyfle i gyfarfod ein tîm o diwtoriaid arbenigol, cael gwybodaeth am ein cyrsiau, gweld ardaloedd o’n safle a’n cyfleusterau anhygoel ar rith-daith. Byddwch hefyd yn cael cyfle i holi cwestiynau yn ein sesiwn fyw holi ac ateb.
Bydd Gyrfa Cymru ar gael i roi cyngor ac arweiniad i chi ar gyfer eich llwybrau gyrfa yn y dyfodol.
Mae’n rhaid cadw lle – Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn derbyn dolen Microsoft Teams er mwyn ymuno â’r digwyddiad.
CLICIWCH YMA i gadw eich llee
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at reception-llysfasi@cambria.ac.uk neu ffoniwch 01978 267931.