
Yn ddiweddar, cafodd Gwobr Rhiannon Hartwell ei lansio am y tro cyntaf yn Chweched Dosbarth Iâl Coleg Cambria.
Sefydlwyd gwobr Rhiannon Hartwell i gydnabod myfyriwr sydd wedi perfformio’n arbennig o dda yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch. Mae Rhiannon yn gyn-fyfyrwraig Chweched Iâl, a hefyd yn gyn-fyfyrwraig o Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn Wrecsam.
Mae Rhiannon, sydd yn 21 o’r Waun, yn esiampl dda i fyfyrwyr presennol, oherwydd ei bod wedi mynd i brifysgol Caergrawnt a chyflawni gradd dosbarth cyntaf mewn Saesneg. Mae hi rŵan yn astudio ar gyfer ei gradd meistr, gan arbenigo mewn barddoniaeth Eingl-Gymreig.
Enillydd cyntaf gwobr Rhiannon Hartwell yw Katia Allen, sy’n 16 oed o Benarlâg. Mae Katia yn astudio Drama, y Cyfyngau a Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch, ac mae hi wedi gwneud yn arbennig o dda yn ei blwyddyn gyntaf o astudio yn y coleg.
Dywedodd Katia:
“Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill y wobr, ond mae’n anrhydedd. Rydw i’n mwynhau astudio yma yn y coleg ac rydw i’n gobeithio astudio Saesneg yn y brifysgol.”
“Mae’n deimlad rhyfedd, ond mae’n fraint cael fy nghydnabod yn esiampl i eraill” ychwanegodd Rhiannon.
“Mae’n anrhydedd bod gwobr wedi ei henwi ar fy ôl, ac rydw i’n gobeithio ysbrydoli eraill i wneud yn dda yn y coleg a mwynhau eu hastudiaethau cymaint ag y gwnes i yng Ngholeg Cambria.”
Dywedodd Neil Roberts, sydd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Dyniaethau Safon Uwch a oedd yn bresennol yn y cyfarfod rhwng Rhiannon a Katia ynghyd â’u hathro Jan Westwood:
“Mae gan Adran Saesneg Iâl enw da am fyfyrwyr yn mynd i’r prifysgolion gorau, yn enwedig Caergrawnt a Rhydychen. Rydym yn awyddus iawn i ddefnyddio cyn-fyfyrwyr yn esiamplau a mentoriaid, er mwyn cymell mwy o bobl ifanc yn yr ardal i anelu at fod y gorau posib.”
yn ôl