
Llwyddodd carfan gyntaf myfyrwyr graddau baglor Cambria i ennill canlyniadau syfrdanol, gyda chyfradd lwyddo 100% ar gyfer graddau Baglor mewn Peirianneg a gafodd eu hachredu gan Brifysgol Abertawe.
Llwyddodd 65% o’n dysgwyr i ennill gradd dosbarth cyntaf, gyda 93% yn ennill gradd gyntaf neu radd 2:1. Mae hyn yn wirioneddol atgyfnerthu llwyddiant pob rhaglen addysg uwch yng Ngholeg Cambria, gan gynnwys hyfforddiant athrawon, lle cymhwysodd a llwyddodd pob un o’r dysgwyr ar eu rhaglen yn ystod yr haf.
Dywedodd Carys Davies, Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Cambria:
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’n set gyntaf o ganlyniadau gradd baglor a hoffem longyfarch ein myfyrwyr ar eu llwyddiant gwych.
“Mae ein rhaglenni gradd yn cysylltu â chyflogwyr ac maent yn cael eu llunio mewn partneriaeth â phrifysgolion blaenllaw Cymru. Mae buddsoddiad miliynau o bunnoedd Coleg Cambria mewn addysg uwch wedi bod o fudd amlwg i’r dysgwyr, gyda’r Ganolfan Peirianneg AU yng Nglannau Dyfrdwy yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r meddalwedd efelychu diweddaraf a roboteg mewn gweithgynhyrchu uwch.”
Wrth ddyfarnu a dilysu canlyniadau’r coleg, canmolodd arholwyr allanol y prifysgolion yn benodol, lefel yr adborth a’r cymorth a roddwyd i’r dysgwyr; perthnasedd diwydiannol y rhaglen a’r meithrin sgiliau rheoli prosiectau, a oedd a’u yn seiliedig ar brosiectau gwirioneddol mewn diwydiant.
Cafodd y rhaglen gradd peirianneg ei chyflwyno’n wreiddiol ar gyfer myfyrwyr Airbus, ond o’r mis Medi hwn ymlaen, byddwn yn ei estyn ac yn ehangu’r disgyblaethau peirianneg ac yn eu cynnig i fyfyrwyr amser llawn a gweithwyr cwmnïau peirianneg eraill hefyd.
Mae’r Coleg yn cynnig graddau newydd mewn Rheolaeth Busnes Cymhwysol a Pheirianneg gyda Phrifysgol Abertawe, ynghyd ag Astudiaethau Plentyndod, Addysg a Hyfforddiant Athrawon gyda Phrifysgol Aberystwyth. Byddwn yn gweithio gyda’n prifysgolion partner i lunio rhagor o gyrsiau lefel gradd bob blwyddyn, gan ddod â graddau galwedigaethol perthnasol o’r safon orau o’r prifysgolion gorau, i ddysgwyr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae’n bosibl cofrestru o hyd ar gyfer holl raglenni gradd yr hydref hwn yng Ngholeg Cambria.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cambria.ac.uk/higher-education neu ffoniwch
0300 30 30 007.
yn ôl