
Llun yn dangos: Sam Ricketts, cyn chwaraewr i Gymru a rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam, yn cyflwyno cap Colegau Cymru i Harri.
Yn ddiweddar, bu Harri Lucas-Jones, myfyriwr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai, yn cynrychioli Cymru yng ngemau pêl-droed dan 18 oed Colegau Cymru 2018 a gemau pêl-droed Bechgyn dan 18 oed Ysgolion Cymru.
Ar ôl i Marc Lloyd Williams, rheolwr Cymru, weld Harri’n chwarae ar gyfer Coleg Cambria Iâl, cafodd y pêl-droediwr dawnus ei wahodd i chwarae yn nhreial pêl-droed Gogledd Cymru yng Ngholeg Llandrillo ym mis Hydref y llynedd. Roedd yn ddigon lwcus i gael ei ddewis i gynrychioli Gogledd Cymru mewn gêm dreial yn erbyn De Cymru yn Y Drenewydd, yng nghanolbarth Cymru. Fe chwaraeodd Harri’n dda iawn yn y gêm hon, ac o ganlyniad cafodd ei wahodd i fynd i hyfforddiant carfan Cymru yn RAF Sain Tathan gyda chwaraewyr eraill o Ogledd Cymru a De Cymru.
Yn ddiweddar, cafodd y pêl-droediwr dawnus ei ddewis i chwarae i dîm Bechgyn dan 18 oed Colegau Cymru – ac fe gafodd deithio gyda Conor Harwood o Goleg Cambria Glannau Dyfrdwy i Rufain ar gyfer y Twrnamaint Pêl-droed Roma Caput Mundi, yn erbyn yr Eidal, Romania a Lloegr. Er bod Cymru wedi colli’r tair gêm, dywedodd Harri, a fu’n chwarae yn y tair gêm, ei fod “yn fraint ac yn brofiad na fydda’ i byth yn ei anghofio”.
Yn dilyn y twrnamaint yn yr Eidal, cafodd Harri ei ddewis wedyn i gynrychioli Cymru yn nhîm Bechgyn Ysgol dan 18 oed yn y gystadleuaeth Tarian Canmlwyddiant, a gynhelir rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Roedd gêm gyntaf Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng nghlwb Derwyddon Cefn, y clwb y mae Harri yn chwaraewr wrth gefn i’w dîm dan 19 oed. Mewn gêm agos iawn, fe gollodd Cymru gyda sgôr o 2-1. Y gêm nesaf oedd oddi cartref yn erbyn Gogledd Iwerddon. Fe wnaeth Harri deithio ar awyren o Birmingham i Ddulyn cyn teithio ar fws dros y ffin i Armagh City lle roedd hi’n gêm gyfartal 1-1. Roedd y gêm hon yn cael ei darlledu’n fyw ar sianel chwaraeon teledu lloeren.
Roedd trydedd gêm Cymru yn erbyn Lloegr gartref ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac unwaith eto, cafodd y gêm hon ei darlledu’n fyw. Enillodd tîm Cymru 1-0, ond yn anffodus fe gafodd Harri ail gerdyn melyn yn y 96ain munud, ac fe’i anfonwyd oddi ar y cae.
Er nad oedd ar gael i chwarae’r gêm derfynol yn erbyn yr Alban yn Dumfries oherwydd ei waharddiad, cafodd Harri ei wahodd i fynd ar y daith gyda’r garfan. Un o’r rhesymau dros gael mynd oedd agosatrwydd y tîm / garfan. Enillodd Cymru’r gêm 3-2, ac fe wnaethon nhw orffen y gystadleuaeth yn ail i Weriniaeth Iwerddon. Dyma’r safle gorau i Gymru ei gyrraedd ers amser maith.
Dywedodd Harri, sy’n mwynhau teithio â’i bêl-droed:
“Rydw i wedi dod yn ffrindiau gyda llawer o bobl yn ystod y profiad hwn a, gyda fy nghyd-chwaraewyr, rydw i wedi derbyn cap bechgyn ysgolion Cymru mewn seremoni fawreddog yn Ne Cymru fis diwethaf. Cyflwynwyd fy nghap colegau Cymru i mi mewn seremoni ym Mharc y Ddraig (cartref Cymdeithas Pêl-droed Cymru) yng Nghasnewydd ar 20 Mai.”
Dywedodd Darryl Cumberlidge, hyfforddwr tîm pêl-droed Coleg Cambria Iâl:
“Rydyn ni’n falch iawn o gyflawniadau Harri yn cynrychioli bechgyn Ysgolion Cymru a Cholegau Cymru. Bydd yn rhoi cymhelliad mawr i’n chwaraewyr newydd ym mis Medi wybod fod ganddynt gyfleoedd i gynrychioli eu gwlad mewn cystadlaethau mawreddog fel hyn.
“Mae Harri wedi gweithio’n galed i wella ei gêm bêl-droed yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’n haeddu pob cydnabyddiaeth y mae wedi’i derbyn.”
yn ôl